Dogfennaeth Adneuo’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Adneuo
Y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
Mae’r Adroddiad ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd yn cyfuno Arfarniad o Gynaliadwyedd (SA) ac Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) mewn perthynas â’r Cynllun Adneuo. Cafodd yr Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol eu paratoi ar ran y Cyngor gan yr ymgynghorwyr Baker Associates. Pwrpas y broses arfarnu cynaliadwyedd yw asesu a fydd gweithredu’r CDLl yn arwain at ddatblygu cynaliadwy yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae’r Cyngor wedi cynnal arfarniad o gynaliadwyedd yr holl safleoedd a ddyrannwyd yn y CDLl. Mae hyn nid yn unig yn sicrhau bod y safleoedd eu hunain yn gynaliadwy a bod unrhyw wrthdaro posib, astudiaethau pellach neu fesurau lliniarol posib yn cael eu nodi; mae hefyd yn sicrhau bod fframwaith cyson ar gyfer asesu Safleoedd Eraill a gyflwynir fel rhan o’r broses ymgynghori ar gyfer y Cynllun Adneuo.
Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) yn ofynnol dan y Gyfarwyddeb Ewropeaidd (92/43/EEC) ar ‘gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt’. Mae’r Gyfarwyddeb yn ceisio diogelu’r cynefinoedd a’r rhywogaethau mwyaf gwerthfawr yn Ewrop. Mae’n rhaid i unrhyw gynllun neu brosiect a allai effeithio o bosib ar Safle a Ddiogelir dan Gyfraith Ewrop (yn yr achos hwn, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)), gael ei asesu i ganfod y tebygolrwydd y gallai effeithio ar gyflawnder y safle ac arwyddocâd yr effeithiau hynny.
Mae prosesau’r Arfarniad o Gynaliadwyedd a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn iterus; aeth fersiynau cynnar o’r CDLl drwy’r prosesau hyn i sicrhau y gellid gwneud newidiadau i’r ddogfen cyn ei chyhoeddi. Mae manylion y newidiadau hyn i’w cael yn y Cofnod o’r Newidiadau i’r Arfarniad o Gynaliadwyedd / Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
Mae’r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol wedi cael ei ddiweddaru a’i atodi i ddangos sut y mae’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y Cam Cyn-adneuo wedi llywio cynnwys y Cynllun adneuo, yn unol â Rheoliad CDLl 16(3).
Mae Arweiniad ar Arfarniad o Gynaliadwyedd ar Safleoedd Amgen yn darparu gwybodaeth, cyngor a thempledi sy’n ymwneud â chyflwyno Arfarniad o Gynaliadwyedd, pan wneir cynrychioliad safle amgen i’r CDLl adneuo.
Mae’r adroddiad hwn yn amlygu’r modd y mae Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd yn 2006/2007 wedi cael eu hasesu ar gyfer eu cynnwys o bosib yn y Cynllun. I gyd-fynd â hwn ceir crynodeb o’r asesiad ar gyfer pob safle ymgeisiol, sut y mae’n perfformio mewn perthynas â’r fethodoleg a chasgliad sy’n nodi a ddylai gael ei ddyrannu yn y Cynllun.
Mae angen i broses y CDLl lwyddo gwrdd â’r profion cadernid a nodir yn y ddogfen Cynlluniau Datblygu Lleol Cymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhagfyr 2005). Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r deg prawf cadernid ac asesiad y Cyngor o’i gynnydd hyd yma wrth gwrdd â hwy.
Asesiad i ganfod sut y bydd y polisïau a’r cynigion yn y cynllun yn effeithio ar wahanol grwpiau cydraddoldeb yn y Fwrdeistref Sirol.
Dogfennau Ategol sy’n Berthnasol i Baratoi CDLl
Mae’r papur hwn yn crynhoi’r materion, polisïau, cynlluniau a strategaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol; gan amlygu eu goblygiadau i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac, yn benodol, i’r CDLl.
Mae’r papur hwn yn nodi cyfiawnhad dros lefel y twf yn y boblogaeth ac mewn tai a gynigir yn y Cynllun ac mae’n egluro pam eu bod yn wahanol i amcanestyniadau LlCC ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.
TMae’r papur hwn yn nodi’r egwyddorion a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd wrth adolygu a dyrannu ffiniau anheddiad yn y CDLl.
Mae’r papur hwn yn nodi’r egwyddorion a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd wrth adolygu a dyrannu Lletemau Gleision yn y CDLl.
Mae’r papur hwn yn nodi gwybodaeth gefndir ar gyfer yr adran o’r Cynllun sy’n ymwneud â mwynau.
Mae’r papur hwn yn nodi gwybodaeth gefndir ar gyfer yr adran o’r Cynllun sy’n ymwneud â gwastraff.
Mae’r papur hwn yn nodi’r egwyddorion a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd wrth adolygu a dyrannu ffiniau canolfannau adwerthu a phrif ffryntiadau siopa yn y CDLl.
Mae’r papur hwn yn nodi’r sylfaen dystiolaeth a gwybodaeth gefndir arall ar gyfer y polisi tai fforddiadwy sydd wedi’i gynnwys yn y Cynllun.
Astudiaethau / Dogfennaeth Ategol
- Astudiaeth o Rôl a Swyddogaeth Aneddiadau - PDF 17178Kb
- Dynodi Ardal Tirwedd Arbennig - PDF 10966Kb
- Arolwg o Argaeledd Tir ar gyfer Cyflogaeth 2009 - PDF 329Kb
- Archwilio Amcanestyniadau Eraill ar gyfer Demograffeg a’r Farchnad Lafur (Adroddiad CE) - PDF 181Kb
- Asesiad o Lety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr - 2010 - PDF 2361Kb
- Asesiad o Farchnad Dai Leol Pen-y-bont ar Ogwr - 2009 - PDF 3703Kb
- Cydastudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai 2009 - PDF 1816Kb
- Canolfannau Adwerthu a Masnachol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2009 - PDF 6264Kb
- Arolwg o Dir Cyflogaeth 2010 - PDF 3147Kb
- Astudiaeth Gynllunio o Anghenion Adwerthu – 2007 - PDF 1235Kb
- Astudiaeth o Hyfywedd Darparu Tai Fforddiadwy - PDF 1589Kb
- Archwiliadau o Fannau Hamdden – 2010 - PDF 15658Kb
- Archwiliad o Chwaraeon Awyr Agored - 2010 - PDF 9288Kb
- Archwiliad Rhandiroedd Pen-y-bont ar Ogwr – 2010 - PDF 5547Kb
- Asesiad Ynni Adnewyddadwy Pen-y-bont ar Ogwr – 2011 - PDF 4715Kb
- Astudiaeth Fireinio o Ardaloedd Chwilio Strategol gan Arup – 2006 - PDF 16412Kb
- Diweddariad i’r Astudiaeth Gynllunio o Anghenion Adwerthu – 2010 - PDF 2347Kb
- Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd Cyfrol 1 – Canllaw i Ddefnyddwyr - PDF 1129Kb
- Cyfrol 2 – Adroddiad Technegol - PDF 837Kb
- Cyfrol 2 - Mapiau Maesteg - PDF 2787Kb
- Cyfrol 2 - Mapiau A - SW - PDF 8930Kb
- Cyfrol 2 - Mapiau Pencoed a Waterton - PDF 3100Kb
- Cyfrol 2 - Mapiau Porthcawl - PDF 11518Kb
Cyhoeddwyd y dogfennau hyn cyn i Safonau’r Gymraeg ddod i rym ar 31 Mawrth 2015 neu nid yw’r safonau’n berthnasol iddynt. Dim ond yn Saesneg mae’r dogfennau hyn ar gael.