Ymgynghoriadau cynigion cyn-adneuo
At ddibenion ymgynghori, mae’r Cyngor wedi cymeradwyo Cynigion Cyn-adneuo CDLl Pen-y-bont ar Ogwr sy’n amlinellu Gweledigaeth ac Amcanion y Cynllun a’r Strategaeth sy’n Cael ei Ffafrio. Caiff y rhain eu dangos ar ffurf Diagram Strategol a’u gweithredu drwy Bolisïau Strategol. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 12 Chwefror a 31 Mawrth 2009.
Mae’r Cynigion Cyn-adneuo hefyd wedi bod yn destun Arfarniad Cychwynnol annibynnol o Gynaliadwyedd (sy’n cynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol) ac maent wedi cael eu sgrinio o safbwynt Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
Mae Cynigion Cyn-adneuo Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer y CDLl sy’n datgan:
Erbyn 2021, caiff Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei gweddnewid i fod yn rhwydwaith cynaliadwy, diogel, iach a chynhwysol o gymunedau sy’n cynnwys aneddiadau cryf, cyd-ddibynnol a chysylltiedig sydd â gwell ansawdd bywyd a chyfleoedd i bawb sy’n byw a gweithio yn yr ardal, yn ymweld â hi neu’n ymlacio ynddi.
Y catalyddion i’r gweddnewidiad hwn fydd:
- canolfan gyflogaeth, fasnachol a gwasanaethau ranbarthol lwyddiannus ym Mhen-y-bont ar Ogwr
- cyrchfan bywiog ar lan y dŵr, yn croesawu twristiaid, ym Mhorthcawl
- Maesteg wedi cael ei hadfywio
- cymunedau sy’n ffynnu yn y Cymoedd
Mae’r Cynigion Cyn-adneuo wedi’u seilio o amgylch y pedair thema ganlynol:
- Cynhyrchu mannau cynaliadwy o ansawdd uchel
- Amddiffyn a gwella’r amgylchedd
- Lledaenu ffyniant a chyfle drwy adfywio
- Creu cymunedau diogel, iach a chynhwysol
Mae rhoi Strategaeth y CDLl ar waith yn llwyddiannus yn dibynnu ar dair elfen:
- Gweithredu pedair ardal dwf allweddol o safbwynt adfywio strategol
- Datblygu pedwar safle cyflogaeth strategol
- Gwireddu prosiectau adfywio eraill sy’n cael eu targedu
Yn ogystal â bod y dogfennau i gyd ar gael ar-lein, maent ar gael yn y mannau isod:
- Yn eich llyfrgell leol
- Yng Nghanolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid y Cyngor yn y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr
Gan fod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben erbyn hyn, caiff yr holl sylwadau eu cyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a bydd unrhyw newidiadau priodol yn cael eu gwneud i’r strategaeth sy’n cael ei ffafrio ar gyfer y CDLl. Caiff y strategaeth ddiwygiedig ei hymgorffori wedyn yng Nghynllun Datblygu Lleol wedi’i Adneuo Pen-y-bont ar Ogwr. Byddwn yn ymgynghori ymhellach â’r cyhoedd ynglŷn â hwn yn 2010.
Cyswllt
Cyhoeddwyd y dogfennau hyn cyn i Safonau’r Gymraeg ddod i rym ar 31 Mawrth 2015 neu nid yw’r safonau’n berthnasol iddynt. Dim ond yn Saesneg mae’r dogfennau hyn ar gael.