Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cychwynnol ynghylch y Cynigion Cyn-adneuo (Rheoliad 15)

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau.

Ymatebion i Sylwadau a Ddaeth i Law ynglŷn â’r Arfarniad o Gynaliadwyedd y Cynigion Cyn-adneuo a’r Sgrinio ar yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Ymgynghorodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ffurfiol ynghylch ei Gynigion Cyn-adneuo ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 12 Chwefror a 31 Mawrth 2009.

Erbyn hyn mae’r Cyngor wedi cynhyrchu Adroddiad Rheoliad 15 (Cynigion Cyn-adneuo) ar yr Ymgynghoriad Cychwynnol. Diben y ddogfen hon yw cofnodi sut yr ymgymerwyd â’r ymgynghori ynghylch y Cynigion Cyn-adneuo, lefelau’r adborth a ddaeth i law a manylion yr adborth hwnnw, ac ymateb cychwynnol y Cyngor i’r prif faterion a godwyd. Daw’r ddogfen i ben drwy amlinellu cyfres o Bwyntiau Gweithredu y mae’r Cyngor o’r farn fod rhaid eu rhoi ar waith er mwyn dylanwadu’n llawn ar y CDLl Adnau sydd i fod i gael ei gyhoeddi yn 2010.

Caiff yr Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cychwynnol ei ddiweddaru (ac ychwanegir ato) pan gyhoeddir y CDLl Adnau i ddangos sut mae’r sylwadau a ddaeth i law ar y cam Cyn-adneuo wedi dylanwadu ar gynnwys a chyd-destun y Cynllun Adnau. Bydd yr Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cychwynnol yn dod yn rhan wedyn o’r Adroddiad Ymgynghori ehangach y mae rhaid i’r Cyngor ei baratoi a’i gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio gyda’r CDLl Adnau i gael ei archwilio.

Mae’r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi ymatebion i sylwadau a ddaeth i law ynglŷn â’r Arfarniad o Gynaliadwyedd y Cynigion Cyn-adneuo a’r Sgrinio ar yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a gynhyrchwyd gan ei ymgynghorwyr, Baker Associates.

Cyhoeddwyd y dogfennau hyn cyn i Safonau’r Gymraeg ddod i rym ar 31 Mawrth 2015 neu nid yw’r safonau’n berthnasol iddynt. Dim ond yn Saesneg mae’r dogfennau hyn ar gael.

Chwilio A i Y