Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Tir preswyl

Mae’r gofyniad i gynnal cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai y gellir ei ddatblygu’n rhwydd yn un o ofynion polisi Llywodraeth Cymru a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru ac a ategir gan Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1.

Y dull i Awdurdod Cynllunio Lleol ddangos bod ganddo gyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai yw’r Gydastudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai (JHLAS) sy’n ddatganiad cytunedig ar argaeledd tir.

Mae hefyd yn un o ofynion monitro’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig bod cyflenwad 5 mlynedd o dir i’w ddatblygu ar gyfer tai yn cael ei gynnal trwy gydol cyfnod y cynllun hyd at 2021.

Pan fo Cydastudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn dangos cyflenwad o dir am lai na 5 mlynedd, rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol gymryd camau i gynyddu’r cyflenwad o dir ar gyfer tai a gall hyn gynnwys adolygu’r CDLl.

Cyhoeddwyd y dogfennau hyn cyn i Safonau’r Gymraeg ddod i rym ar 31 Mawrth 2015 neu nid yw’r safonau’n berthnasol iddynt. Dim ond yn Saesneg mae’r dogfennau hyn ar gael.

Chwilio A i Y