Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyflwyniad

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn ddogfen gyfreithiol a fydd yn nodi’r polisïau cynllunio yn y fwrdeistref sirol hyd at 2021. Bydd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio ac i lywio a hybu datblygiadau sydd er lles y cyhoedd. Mae’r polisïau yn y cynllun yn adnabod tir ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiadau – megis tai, cyflogaeth, adwerthu, addysg a mannau agored. Mae gan y cynllun y potensial i gael effaith uniongyrchol ar fywydau pob trigolyn ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’n dwyn goblygiadau pwysig i dirfeddianwyr a datblygwyr.

Cefndir

Fe ymgynghorodd y Cyngor ynghylch strategaeth ar gyfer y CDLl yn 2009, ac mae canlyniadau’r broses ymgynghori honno wedi helpu i lunio’r CDLl drafft. Roedd y Strategaeth ar gyfer y CDLl yn nodi ein gweledigaeth, amcanion a dull ffafriedig arfaethedig ar gyfer y CDLl hyd at 2021. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r Cyngor wedi cytuno faint o ddatblygiad ddylai ddigwydd hyd at 2021 a ble yn y fwrdeistref sirol y dylai hyn ddigwydd ar y cyfan.

Yn seiliedig ar y Strategaeth ar gyfer y CDLl, mae’r Cyngor wedi cynhyrchu’r CDLl drafft. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys polisïau manwl sy’n nodi ble a sut y bydd datblygiadau yn y fwrdeistref sirol yn cael eu hybu a’u rheoli. Mae’r cynllun yn seiliedig ar bedair thema, ac mae pob un ohonynt yn ymdrin ag ystod o destunau. Mae hefyd yn adnabod tir ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiadau gan gynnwys tai, cyflogaeth ac adwerthu. Mae’r mwyafrif o’r datblygiadau newydd wedi’u lleoli o fewn pedair ardal twf adfywio strategol. Mae’r cynllun hefyd yn adnabod tir ac ardaloedd yng nghefn gwlad a warchodir.

Cyhoeddwyd y dogfennau hyn cyn i Safonau’r Gymraeg ddod i rym ar 31 Mawrth 2015 neu nid yw’r safonau’n berthnasol iddynt. Dim ond yn Saesneg mae’r dogfennau hyn ar gael.

Cyswllt

Cynllunio datblygiad

Ffôn: 01656 643168

Chwilio A i Y