Adroddiad Sgrinio a Chwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd y CDLl
Prif nod yr Arfarniad o Gynaliadwyedd yw sicrhau bod y cynllun, cyn belled ag sy’n bosibl, yn ecogyfeillgar.
Mae’n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried yn ffurfiol a fydd y CDLl yn cael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol, a chyhoeddi’r penderfyniad hwn. Gwneir hyn drwy gyhoeddi Adroddiad Sgrinio. Ar ôl ymgynghori ni wnaed unrhyw newidiadau i’r Adroddiad Sgrinio drafft.
Mae Adroddiad Cwmpasu drafft yr Arfarniad o Gynaliadwyedd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â sut y bydd yr awdurdod yn ymgymryd â’r arfarniad hwn. Mae hefyd yn nodi gwybodaeth llinell sylfaen i ardal y CDLl ac yn dangos pa effaith y gallai cynigion y Cynllun ei chael ar y sylfaen honno yn y dyfodol ynghyd â materion cynalliadwyedd allweddol.
Mae’r Cyngor wedi comisiynu ymgynghorwyr, Baker Associates, i ymgymryd â’r gwaith sy’n gysylltiedig â’r Arfarniad o Gynaliadwyedd.
Yr Adroddiad Cwmpasu yw’r cam cyntaf ym mhroses yr Arfarniad o Gynaliadwyedd, ac mae’n caniatáu i gyrff perthnasol gyfrannu at yr Arfarniad o Gynaliadwyedd yn gynnar, i sicrhau y ceir cytundeb ynglŷn â’r fethodoleg a’r dull gweithredu priodol ar gyfer yr arfarniad a’r asesiadau. Felly, mae’r wybodaeth ynddo yn nodi pa rai yw’r materion cynaliadwyedd allweddol yn y Fwrdeistref Sirol a sut y bydd yr arfarniad yn ystyried y rhain.
Cysylltiadau Adroddiadau Sgrinio a Chwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd:
Adroddiad Cwmpasu Drafft yr Arfarniad o Gynaliadwyedd
Hysbysiad Statudol yr Ymgynghori ynghylch Adroddiad Cwmpasu Drafft yr Arfarniad o Gynaliadwyedd
Ymatebion y Cyngor i Adroddiad Cwmpasu Drafft yr Arfarniad o Gynaliadwyedd
Adroddiad Cwmpasu Terfynol yr Arfarniad o Gynaliadwyedd
Cyhoeddwyd y dogfennau hyn cyn i Safonau’r Gymraeg ddod i rym ar 31 Mawrth 2015 neu nid yw’r safonau’n berthnasol iddynt. Dim ond yn Saesneg mae’r dogfennau hyn ar gael.