Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Adeileddau Peryglus

Dan Ddeddf Adeiladu 1984 mae gennym y pŵer i ymdrin ag adeiladau neu adeileddau peryglus, neu rannau ohonynt sy’n beryglus. Rydym yn ymdrin â phob adeiledd peryglus fel blaenoriaeth.

Byddwn yn archwilio’r sefyllfa ac os yw’r adeilad neu’r adeiledd ar fin bod yn beryglus, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i gysylltu â’r perchennog a rhoi’r cyfle iddynt drefnu cael gwared ar y perygl eu hunain. Os nad yw hyn yn bosib neu nad oes modd dod o hyd iddynt, byddwn ni’n ymgymryd â’r gwaith, a allai gynnwys diogelu’r ardal neu ei ddymchwel yn rhannol neu’n llawn. Os ymgymerwn ni â’r gwaith, gallwn adennill yr holl gostau rhesymol gan y perchennog.

Os nad yw’n debygol o fod yn beryglus ar unwaith, gallwn geisio gorchymyn gan Lys Ynadon i fynnu bod y perchennog yn cyflawni’r holl waith angenrheidiol i gael gwared ar y perygl.

Os oes angen i chi roi gwybod i ni am adeilad peryglus, defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

 

Cyswllt

Rheoli Adeiladu

Grŵp Datblygu
Ffôn: 01656 643408
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Chwilio A i Y