Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Taliad Costau Byw gwerth

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Medi 2022

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu prosesu.

Diweddariad: 18 Awst 2022

Os yw eich aelwyd yn gymwys, a ddim yn talu'r Dreth Gyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol, byddwch wedi cael llythyr neu e-bost cychwynnol gyda chod mynediad sydd bellach wedi dod i ben.

Mae llythyrau atgoffa nawr yn cael eu hanfon at unigolion nad ydynt eisoes wedi derbyn y taliad yr wythnos hon.

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y llythyr yn ofalus a gwnewch gais cyn gynted â phosibl, oherwydd bydd y cod mynediad newydd yn dod i ben 30 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr.

I hawlio'r taliad hwn, bydd angen i chi roi manylion y cyfrif banc rydych am i'r taliad gael ei dalu iddo. Mae angen i'r cyfrif banc fod yn enw'r unigolyn sy'n talu'r dreth gyngor. Bydd y llythyr hwn hefyd yn cynnwys cod mynediad unigryw a'ch rhif cyfrif treth gyngor, y byddwch ei angen er mwyn cwblhau'r ffurflen hon.

Os ydych yn gymwys, ond heb gael eich llythyr atgoffa o fewn 7 diwrnod, cysylltwch â'r Cyngor drwy ffonio 01656 643643

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £152m i ddarparu taliad cost-byw o £150 i aelwydydd cymwys a £25m i gynnig cymorth dewisol at ddibenion eraill sy'n gysylltiedig â chostau byw.

Bwriad y cynlluniau yw cynnig cymorth wrth i Gymru adfer ar ôl y pandemig a chefnogi aelwydydd i ymdopi ag effaith costau ynni cynyddol a chostau cynyddol eraill. 

Cymhwysedd

Bydd aelwydydd yn gymwys am y taliad hwn os: -

  • Oeddynt yn derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar 15 Chwefror 2022, waeth beth fo'r band prisio y lleolir eu heiddo ynddo.

Neu

Os yw aelwyd yn meddiannu eiddo ym Mandiau A i D y dreth gyngor, ac:

  • Roeddynt yn atebol am y dreth gyngor ar eiddo ar 15 Chwefror 2022;
  • Heb dderbyn eithriad
  • Yn meddiannu eiddo ar 15 Chwefror 2022 ac ar ddyddiad penderfynu ar y dyfarniad;
  • Yn byw yn yr eiddo fel eu prif breswylfa;
  • Yn gyfrifol am dalu'r biliau cyfleustodau a biliau cysylltiedig rheolaidd eraill ar gyfer yr eiddo. Bydd awdurdodau lleol sy'n gweinyddu'r cynllun yn cymryd yn ganiataol, yn rhesymol, bod aelwyd(ydd) sy'n atebol i dalu'r dreth gyngor hefyd yn gyfrifol am dalu'r bil cyfleustodau a biliau rheolaidd eraill. 

Mae aelwydydd sy'n byw mewn eiddo sy'n denu gostyngiad band addasiad anabledd yn gymwys i gael taliad dan yr amgylchiadau canlynol. e.e. mae eiddo sydd wedi'i brisio fel Band E ond sy'n cael gostyngiad band addasiad anabledd i Fand D yn gymwys.

Taliadau

Mae pob aelwyd wedi’i gyfyngu i un taliad o £150 yn unig

Bydd preswylwyr ym Mandiau A-D y dreth gyngor sy’n talu eu treth gyngor drwy ddebyd uniongyrchol ar hyn o bryd yn derbyn eu taliadau’n awtomatig.

Bydd unigolion nad ydynt yn talu drwy ddebyd uniongyrchol yn cael llythyr neu e-bost gyda chod mynediad yn cynnwys cyfarwyddiadau ynghylch sut i gofrestru i dalu.

Peidiwch â chysylltu â ni ynghylch hyn oherwydd fe all achosi oedi wrth brosesu eich taliad.

Chwilio A i Y