Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynlluniau Cymorth Biliau Ynni gan Lywodraeth Ei Fawrhydi

Cyllid Amgen y Cynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSS-AF)

Mae Llywodraeth Ei Fawrhydi yn darparu cymorth ar gyfer biliau ynni i aelwydydd cymwys sydd ddim yn derbyn y taliad o £400 sy’n cael ei dalu gan y cyflenwyr ynni yn awtomatig.

I fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol ar ddyddiad eu cais:

  • Yr annedd yw unig neu brif gyfeiriad yr ymgeisydd
  • Mae'r aelwyd yn gyfrifol am dalu am ynni sy'n cael ei ddefnyddio yn yr annedd fel rhan o dâl gwasanaeth, rhent neu gytundeb arall.
  • Nid yw'r aelwyd yn gymwys i dderbyn taliadau’r Cynllun neu nid yw yn eu derbyn yn barod.
  • Nid safle busnes na math arall o safle annomestig yw'r aelwyd.

 

Os yw’r aelwyd yn gallu darparu prawf digonol o gyfeiriad ac nad ydyw’n anghymwys fel arall, mae aelwydydd sy'n gymwys i gael Cyllid Amgen y Cynllun yn cynnwys:

  • preswylwyr cartrefi parc
  • tenantiaid cymdeithasau tai, tenantiaid cymdeithasol a phreifat, a lesddeiliaid, y mae eu landlord wedi darparu mesurydd masnachol ar eu cyfer
  • preswylwyr cartrefi gofal sy'n ariannu eu hunain yn rhannol neu’n llwyr (lle maent yn gwneud unrhyw gyfraniad at eu costau, yn hytrach na thrigolion sy'n cael eu hariannu gan y GIG)
  • aelwydydd mewn cychod preswyl ar angorfeydd preswyl
  • aelwydydd ar rwydwaith trydan preifat, er enghraifft y rhai sy’n cael cyflenwad o rwydwaith gwres
  • aelwydydd oddi ar y grid
  • aelwydydd teithwyr ar safleoedd awdurdodedig
  • aelwydydd mewn llety nad yw’n barhaol / llety â chymorth

Cronfa Amgen ar gyfer Taliadau Tanwydd Amgen

Mae Llywodraeth Ei Fawrhydi hefyd yn darparu taliad grant o £200 i aelwydydd yn y DU sy'n defnyddio tanwyddau amgen ar gyfer gwresogi yn hytrach na nwy drwy’r prif gyflenwad. Mae hyn yn cynnwys cartrefi sy'n defnyddio olew gwresogi, LPG, glo neu fiomas. Ni fydd angen i'r rhan fwyaf o gwsmeriaid wneud unrhyw beth i dderbyn y taliad o £200, gan y bydd yn cael ei ddarparu'n awtomatig gan eu cyflenwr trydan. Ond, fe fydd ychydig o ddefnyddwyr tanwydd amgen na fydd yn derbyn y taliad o £200 yn awtomatig.

Rhaid gwneud ceisiadau ar gyfer y ddau gynllun ar-lein yn GOV.UK rhwng dydd Llun 27 Chwefror 2023 a 23:59 ar 31 Mai 2023 pan fydd y cynllun yn cau. Mae rhagor o wybodaeth a manylion am  sut i wneud cais ar gael drwy chwilio am "Applying for energy bill support if you do not get it automatically" ar dudalen we GOV.UK neu unrhyw chwilotwr ar-lein.

Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n gallu gwneud cais ar-lein ffonio'r rhif ffôn rhadffôn 0808 175 3287 am gymorth. Mae'r ganolfan gyswllt ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 tan 18.00.

 

NID YW’N BOSIB gwneud cais drwy'r cyngor.

Chwilio A i Y