Cynllun Cymorth Hunanynysu
Mae'r cynllun cymorth hunanynysu ar gyfer y rhai ar incwm isel, na allant weithio gartref ac sy'n gorfod hunanynysu. Mae hefyd ar gyfer rhieni a gofalwyr ar incwm isel gyda phlant sy'n hunanynysu.
Gallech gael taliad o £500 i helpu gyda cholli enillion os dywedwyd wrthych am hunanynysu am gyfnod yn dechrau ar, neu ar ôl, 28 Ionawr 2022, ac na allwch weithio gartref. Ar gyfer cyfnodau hunanynysu rhwng 7 Awst 2021 a 27 Ionawr 2022, gallech gael taliad o £750.
Mae taliadau hunanynysu yn drethadwy ond ni ddylent effeithio ar unrhyw fudd-daliadau a gewch. Os ydych yn gyflogedig, byddwch yn talu treth ar y taliad os byddwch yn mynd dros eich lwfans personol di-dreth. Bydd eich cod treth yn newid i gasglu'r dreth. Ni fyddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y taliad. Os ydych yn hunangyflogedig, rhaid i chi roi gwybod am y taliad ar eich ffurflen dreth Hunanasesu.
Bydd gennych chi hawl efallai i gymorth ariannol:
- os yw gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) GIG Cymru wedi cysylltu â chi a dweud wrthych am hunanynysu; neu
- os ydych yn rhiant neu'n ofalwr i blentyn y mae TTP GIG Cymru wedi dweud wrtho am hunanynysu; neu
- rydych chi wedi profi'n bositif gan ddefnyddio dyfais llif unffordd ac wedi cofrestru'r canlyniad o fewn 24 awr.
Rhaid i chi gofrestru canlyniad prawf llif unffordd positif o fewn 24 awr i dderbyn y canlyniad. Os na wnewch hyn, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y taliad a bydd eich cais yn cael ei wrthod. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma am gofrestru canlyniad positif eich prawf.
Os ydych chi’n hunanynysu oherwydd eich bod wedi cael eich adnabod fel cyswllt gan yr Ap COVID-19, bydd angen i chi gofrestru gyda gwasanaeth TTP GIG Cymru cyn gwneud cais am daliad. Mae mwy o wybodaeth yma am sut i wneud cais drwy'r Ap COVID-19, ar gymorth ap GIG COVID-19.
Nodwch os gwelwch yn dda:
- os ydych chi wedi cael eich brechu'n llawn ni chewch eich cynghori i hunanynysu fel cyswllt.
- ni ellir gwneud taliad i gysylltiadau cartref sy'n hunanynysu tra'n aros am ganlyniad prawf PCR. Yn y sefyllfa hon fe'ch cynghorir i hunanynysu (nid oes dyletswydd gyfreithiol).
Taliad Cymorth Hunanynysu
Os ydych chi’n bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd, mae gennych chi hawl i Daliad Ynysu o £500 neu £750 (yn dibynnu ar ba bryd y bydd eich cyfnod hunanynysu yn dechrau):
- rydych chi, neu eich plentyn, wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru
- rydych chi’n gyflogedig neu'n hunangyflogedig
- ni allwch weithio gartref a byddwch yn colli incwm o ganlyniad
- ar hyn o bryd rydych chi neu'ch partner yn derbyn o leiaf un o'r budd-daliadau canlynol: Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn
Taliad Dewisol
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliad Dewisol o £500 neu £750 (yn dibynnu ar ba bryd y bydd eich cyfnod hunanynysu yn dechrau) os ydych yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd eraill uchod, ond:
- ar hyn o bryd, nid ydych chi na'ch partner yn derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn; a
- byddwch yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i fethu gweithio tra byddwch yn hunanynysu
Cymhwysedd i rieni a gofalwyr
Gall rhiant neu ofalwr wneud cais am daliad os yw eu plentyn wedi cael cyfarwyddyd ffurfiol i hunanynysu. I gael y taliad, rhaid i'r plentyn:
- fod yn mynychu'r ysgol, addysg bellach neu ofal plant (hyd at a gan gynnwys Blwyddyn 11 neu hyd at 25 oed os oes ganddynt anghenion cymhleth); a
- fod wedi cael cyfarwyddyd ffurfiol i hunanynysu gan wasanaeth TTP GIG Cymru.
Sylwch na ellir gwneud taliad os mai dim ond Ap COVID-19 y GIG sydd wedi dweud wrth y plentyn am hunanynysu.
Rhaid i rieni neu ofalwyr fodloni meini prawf y prif gynllun hefyd, neu derbynnir y cais o dan y cynllun dewisol.
Gwneud cais am y taliad
Mae'r cais hwn ar gyfer un person yn unig a rhaid i unrhyw geisiadau pellach yn yr un cartref gael eu gwneud gan bob unigolyn.
Gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth isod ar gael cyn dechrau eich cais
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- cadarnhad o'r dyddiad a roddwyd gan TTP GIG Cymru
- eich datganiad banc diweddaraf, slip cyflog neu brawf o hunangyflogaeth
Ar ôl ymgeisio
Bydd eich manylion yn cael eu gwirio yn erbyn cofrestr TTP GIG Cymru. Pwrpas hyn yw gwirio eich bod wedi cael cyfarwyddyd ffurfiol i hunanynysu.
Os nad ydych wedi’ch cofrestru, bydd eich cais yn cael ei wrthod ac ni fydd yn cael ei gymeradwyo.
Ceisiadau a wneir ar ôl i’r cyfnod hunanynysu ddod i ben
Gallwch wneud cais hyd at 21 diwrnod ar ôl i'ch cyfnod ynysu ddod i ben. Er enghraifft, os dywedwyd wrthych i hunanynysu ar 1 Ionawr tan 10 Ionawr, bydd gennych hyd at 1 Chwefror i wneud cais.
Sylwer na allwn dderbyn ceisiadau ar ôl i’r cyfnod yma ddod i ben.
Os oes angen i chi hunanynysu fwy nag unwaith
Uchafswm nifer y taliadau i unrhyw unigolyn o dan y cynllun yw tri. Hefyd, gellir gwneud 3 thaliad i rieni neu ofalwyr mewn perthynas â phlant sy'n hunanynysu ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwyso.
Rhaid i chi fodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob hawliad unigol ac ni ddylai eich cyfnodau hunanynysu orgyffwrdd.