Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Biniau graeanu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal mwy na 400 o finiau graean ar draws y fwrdeistref sirol, gyda chyfran ohonynt wedi'u darparu ar y cyd â Chynghorau Cymuned a Thref. Mae’r rhain i’w gweld fel rheol ar hyd ffyrdd preswyl a ffyrdd llai eraill, yn enwedig lle mae cyffyrdd neu elltydd serth. Maent yn hawdd i’w gweld gan eu bod yn felyn llachar.

Cyn dechrau pob gaeaf rydyn ni’n ail-lenwi’r biniau gyda chymysgedd o halen a thywod bras. Mae’r biniau’n cael eu darparu fel bod trigolion a modurwyr yn gallu defnyddio’r graean pan mae’r amodau ar y ffyrdd yn dirywio ac i’w gwneud yn haws teithio ar hyd strydoedd lleol. Plîs peidiwch â defnyddio’r graean ar dir preifat fel eich dreif.

Chwilio A i Y