Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Strydoedd glanach

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus er mwyn hybu ymddygiad da ac i leihau sbwriel a thipio anghyfreithlon. Bob mis, rydyn ni’n arolygu sawl stryd i asesu eu glendid. Mae hyn yn galluogi cymariaethau flwyddyn ar flwyddyn yn unol â’r System Reoli ar gyfer Archwilio’r Amgylchedd Lleol (LEAMS).

 

Hefyd rydyn ni’n cefnogi prosiectau lleol i hybu ardaloedd heb sbwriel, clirio traethau, rhaglenni addysgol i ysgolion, ymgyrchoedd baw cŵn a sylw i ddigwyddiadau. Yn ddiweddar, cynlluniodd plant ysgol lleol bosteri gwrth-sbwriel, sy’n cael eu defnyddio yn awr ar finiau ledled Porthcawl.

Graffiti

Mae graffiti yn aml yn tramgwyddo, yn amharu’n weledol ac yn hagr i’r llygaid. Mae tystiolaeth yn dangos os na chaiff graffiti sylw prydlon bod y broblem yn gwaethygu a bod ardal yn gallu ymddangos fel un nad yw’n cael gofal. Mae hyn yn arwain at ddifrod pellach a fandaliaeth sy’n gallu gwneud i ardal deimlo’n anghroesawus ac yn beryglus.

Rydyn ni’n gyfrifol am gael gwared ar raffiti o eiddo y mae’r cyngor yn berchen arno, ond nid eiddo preifat, gan mai cyfrifoldeb y perchennog neu’r deiliad yw hynny.

Os oes lluniau neu iaith sy’n tramgwyddo y mae’r cyhoedd yn gallu eu gweld, byddwn yn cynnig cymorth i’w glanhau. Bydd hyn yn digwydd ar yr amod bod y perchennog yn rhoi indemniad i ni rhag unrhyw ddifrod a achosir gan ddeunyddiau cawstig.

Offer miniog/nodwyddau

Os dewch chi o hyd i offer miniog/nodwyddau/cyfarpar cyffuriau, nodwch eu lleoliad penodol a rhoi gwybod amdanyn nhw.

Os rhoddir nodwyddau ar gyfer cyflyrau meddygol, mae ‘bocs offer miniog’ melyn yn cael ei roi fel rheol ar gyfer gwaredu diogel a rhoddir gwybodaeth am ddull dychwelyd. I warchod diogelwch eraill wrth storio, cofiwch ofyn bob amser am gadw a dychwelyd nodwyddau wrth gael gwared arnyn nhw.

Yn anffodus, mae nodwyddau a chyfarpar cyffuriau arall yn cael eu canfod ar ein strydoedd ni weithiau, ond bydd y cyngor bob amser yn helpu i glirio a chael gwared ar ddeunyddiau o’r fath.

Chwilio A i Y