Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llysiau’r Dial

Mae Llysiau'r Dial yn broblem am eu bod yn lledaenu’n hawdd iawn drwy fonion tanddaearol, tebyg i wreiddiau, o’r enw gwreiddgyffion. Gallant achosi difrod strwythurol i adeiladau, arwain at oedi mewn gwaith adeiladu, a gallant atal benthycwyr rhag rhoi morgais ar eiddo a effeithir.

Sut i adnabod Llysiau'r Dial

Gall Llysiau'r Dial dyfu i dros dair metr o uchder ac mae'n ffurfio dryslwyn trwchus. Mae’n marw’n fonion difywyd, cadarn yn y gaeaf, ac yna'n tyfu'n gryfach y tymor tyfu nesaf. Ymhlith nodweddion unigryw’r planhigyn mae:

  • bonion igam-ogam
  • dail gwyrdd, ffrwythlon siâp tarian
  • bonion â brychau porffor
  • blodau gwynion yn yr haf

Llysiau'r Dial ar dir y cyngor

Os gwelwch lysiau’r dial ar dir y cyngor, cysylltwch â ni.

Llysiau’r Dial ar dir preifat

Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw Llysiau'r Dial. Os nad ydych yn gwybod pwy yw’r tirfeddiannwr, gallwch gysylltu â'r Gofrestrfa Tir.

Os taw’ch tir chi ydyw, peidiwch â gadael iddo ymledu i’r gwyllt nac i eiddo rhywun arall. Gallwch naill ai ei drin eich hun, neu drwy ddefnyddio cwmni arbenigol. Gall gymryd blynyddoedd i waredu Llysiau'r Dial.

Rheolau wrth ddelio â Llysiau'r Dial

Dosberthir deunydd gwastraff o’r planhigion hyn yn ‘wastraff a reolir’ dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Rhaid ei waredu mewn safle gwastraff â thrwydded addas. Nid oes safleoedd gwastraff ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr a gofrestrir i dderbyn Llysiau'r Dial.

Rhestrir Llysiau'r Dial yn Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ac mae’n ddarostyngedig i Adran 14 y Ddeddf hon. Mae’n drosedd plannu neu achosi i’r rhywogaeth hon dyfu’n y gwyllt. Gall hyn gynnwys ei ledaenu drwy strimio, ffustio neu ddympio deunydd halogedig.

Chwilio A i Y