Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd

Dengys y Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd sut rydym yn bwriadu:

  • lleihau effaith llifogydd ar unigolion, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd
  • cynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â phobl wrth ymateb i berygl llifogydd ac erydu arfordirol
  • rhoi ymateb effeithiol a pharhaus i lifogydd ac erydu arfordirol
  • blaenoriaethu buddsoddiad yn y cymunedau sydd fwyaf agored i niwed.

Mae’r strategaeth yn cyfuno polisïau presennol ac unrhyw gamau gweithredu neu bolisïau newydd sydd wedi’u cyflwyno yn sgil Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009. Mae hefyd yn cynnwys camau gweithredu neu bolisïau arfaethedig i’w cyflwyno er mwyn rheoli perygl llifogydd ymhellach.

Cymeradwywyd y Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ym mis Medi 2013.

Chwilio A i Y