Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Draenio priffyrdd

Nid oes dyletswydd statudol i ddraenio’r briffordd. Fodd bynnag, rydym yn gwneud ein gorau glas fel awdurdod priffyrdd i geisio sicrhau bod y ffyrdd a’r priffyrdd ar draws y fwrdeistref yn draenio’n briodol.

Rydym yn gwneud hyn trwy archwilio, cynnal a glanhau systemau megis draeniau. Rydym hefyd yn gwneud gwelliannau pan fo digon o adnoddau gennym.

Mae hyn yn helpu i greu arwyneb diogel i’r ffyrdd trwy leihau llifogydd ac iâ.

Mae gan bob system ddraenio uchafswm lle ac weithiau mae hwn yn cael ei orlenwi, er enghraifft pan fo storm fawr. Os oes angen i chi adrodd am broblem gyda draenio, cysylltwch â ni.

Chwilio A i Y