Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Asesiad perygl llifogydd rhagarweiniol

Mae’r Asesiad Perygl Llifogydd Rhagarweiniol yn drosolwg o berygl llifogydd o ddŵr daear, cyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb, prif afonydd a’r môr. Adolygwyd yr asesiad hwn yn 2017 gan ddefnyddio’r holl ddata a gwybodaeth berthnasol am berygl llifogydd. Cytunwyd arno gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar 19 Hydref 2017.

Mae’r datganiadau hyn yn disgrifio’r adolygiad o’r asesiad perygl ers cyhoeddi’r adroddiad asesiad rhagarweiniol yn 2011.

Perygl llifogydd yn y gorffennol

Cafwyd adolygiad o’r llifogydd sydd wedi digwydd ers cyhoeddi Adroddiad yr Asesiad Perygl Llifogydd Rhagarweiniol cyntaf yn 2011. Ers hynny, nid yw unrhyw lifogydd wedi achosi niwed sylweddol yn lleol.

Perygl llifogydd yn y dyfodol

Nid yw unrhyw wybodaeth newydd a nodwyd ers cyhoeddi’r Adroddiad o’r Asesiad Perygl Llifogydd Rhagarweiniol cyntaf yn 2011 wedi newid ein dealltwriaeth o berygl llifogydd yn y dyfodol.

Ardaloedd perygl llifogydd

Caiff ardaloedd perygl llifogydd yng Nghymru eu hadolygu fel rhan o asesiad perygl llifogydd rhagarweiniol cyfunol a fydd yn ymdrin â phob ffynhonnell perygl llifogydd erbyn 22 Rhagfyr 2018.

Chwilio A i Y