Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Rydym wedi llwyddo i gael cyllid gwerth £250,000, diolch i grant gan gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
Bwriad y prosiect yw creu byd natur ar eich stepen drws drwy ganolbwyntio ar ‘leoedd bob dydd’ fel lleoliadau ble mae pobl yn byw neu’n gweithio ynddynt.
Bydd y gwelliannau yn cynnwys:
- Plannu coed
- Plannu gwrychoedd
- Creu perllannau
- Plannu bylbiau blodau gwyllt
- Ardaloedd ‘dim torri’.
Y gobaith yw y bydd yn gwella coridorau hanfodol ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau fel peillwyr, ystlumod a mamaliaid bach, yn ogystal â gwella’r ardaloedd ar gyfer cymunedau lleol.
Dweud eich dweud
Mae Ymddiriedolaeth Natur Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar y cynlluniau. Gwahoddir preswylwyr i roi eu hadborth yn y lleoliadau canlynol:
Dydd Gwener 13 Ionawr 2023
- Parciau a Mannau Gwyrdd, Gogledd Corneli: 1:30pm - 3:00pm,
- Oakwood, Maesteg: 4:00pm - 5:30pm
Llun 16 Ionawr 2023
- Parc Chwarae, Tondu: 8:30am - 10:00am
- Heol y Bryn, Brynmenyn: 11:00am - 12:30pm
- Parciau a Mannau Gwyrdd, Sarn: 1:30pm - 3:00pm
- Caeau Trecelyn, Pen-y-bont ar Ogwr: 4:00pm - 5:30pm
Mawrth 17 Ionawr 2023
- Parciau a Mannau Gwyrdd, Cefn Glas 8:30am - 10:00am
- Parciau a Mannau Gwyrdd, Bryntirion: 11:00am - 12:30pm
- Parciau a Mannau Gwyrdd, Y Castellnewydd: 1:30pm - 3:00pm
- Parciau a Mannau Gwyrdd, Mynydd Cynffig: 4:00pm - 5:30pm