Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddariadau Tywydd Garw

Os bydd eira, llifogydd neu dywydd garw, bydd gwybodaeth am wasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei rhannu yma.

 

Dydd Mercher 18 Ionawr 2023

1:50pm - Mae Canolfan Ailgylchu Gymunedol Maesteg wedi ailagor.

 

1:45pm - Bydd ffordd fynydd y Bwlch ar yr A4061 yn ailagor am 3pm heddiw. Diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth wrth i’r timau weithio i glirio’r ffordd.

Mae’r criwiau graeanu unwaith yn rhagor yn trin y rhwydwaith ffyrdd ymlaen llaw brynhawn heddiw a thros nos wrth i’r tymheredd rhewllyd barhau.

 

12:11pm - Mae llawr uchaf maes parcio’r Rhiw wedi cau ar hyn o bryd oherwydd eira a rhew.

 

10:00am - Ar hyn o bryd mae’r holl gasgliadau ailgylchu a gwastraff yn mynd rhagddynt fel arfer. Mewn lleoedd ble mae strydoedd yn llithrig neu’n slwtsh, efallai y bydd criwiau’n cyrraedd yn hwyrach na’r arfer.

Ar hyn o bryd mae Canolfan Ailgylchu Gymunedol Maesteg wedi cau oherwydd rhew ac eira. Mae Canolfannau Ailgylchu Cymunedol Tythegston a Brynmenyn yn dal i fod ar agor.

 

9:30am - Mae lorïau graeanu wedi bod allan sawl gwaith yn ystod y dydd a’r nos i drin y rhwydwaith ymlaen llaw.

Mae erydr ar waith ar hyn o bryd i glirio ardaloedd o dir uchel sydd wedi’u heffeithio gan eira, gan gynnwys Ffordd Mynydd y Bwlch, sydd ar gau ar hyn o bryd.

Dolenni Defnyddiol

Cyfeiriadur o adnoddau defnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer gwahanol fathau o dywydd gwael ac ymdopi ag ef:

Met Office 

Twitter: @MetOffice

Cyfoeth Naturiol Cymru

Twitter: @NatResWales

Traffig Cymru

Twitter: @TrafficWalesS

Chwilio A i Y