Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rheoliad cyrsiau dŵr cyffredin

Mae gennym gyfrifoldeb dros reoleiddio cyrsiau dŵr cyffredin. Mae cyrsiau dŵr cyffredin yn cynnwys nentydd, draeniau, ffosydd a thramwyfeydd y mae dŵr yn llifo trwyddynt ond nad ydynt yn rhan o’r prif rwydwaith afonydd.

Mae hyn yn golygu y gallwn ni:

  • gymryd camau gorfodi i ddatrys gwaith anghyfreithlon a allai fod yn niweidiol i gwrs dŵr
  • rhoi caniatâd am newidiadau i gyrsiau dŵr cyffredin a allai rwystro neu newid llif y dŵr.

Gallai fod angen caniatâd arnoch i ymgymryd â gwaith, yn benodol os ydych yn bwriadu dargyfeirio neu newid cyflwr naturiol cwrs dŵr neu ei roi trwy geuffos.

Argymhellir yn gryf i chi drafod unrhyw geisiadau â ni cyn cyflwyno cais ffurfiol.

Mae pob cais yn costio £50. Ni allwn brosesu eich cais cyn derbyn y cais a’r ffi.

Os byddwch yn gwneud y gwaith heb gyflwyno cais am ganiatâd, bydd rhaid i chi gael gwared ar unrhyw waith, ni waeth a yw’n cydymffurfio neu beidio. Ni roddir ôl-ganiatâd.

Gall y broses ymgeisio bara hyd at ddau fis calendr, felly caniatewch ddigon o amser.

Hefyd gallai fod angen asesiad Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer rhai gweithgareddau.

I drafod eich cynnig neu ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â’r Is-adran Rheoli Llifogydd a’r Arfordir.

Cyswllt

Rheoli Llifogydd a’r Arfordir

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y