Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Beth sy’n digwydd i wastraff ailgylchadwy

Mae’r gwastraff bwyd rydych chi’n ei anfon i gael ei ailgylchu’n mynd i gael ei drin mewn cyfleuster yn Stormy Down. Mae’n cael ei roi drwy broses o’r enw “treulio anaerobig” lle mae micro-organebau’n cael eu hychwanegu at y gwastraff bwyd. Mae’r rhain yn rhyddhau nwy methan wrth i’r gwastraff bydru, sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan. Mae’r ffynhonnell yma o ynni’n golygu ein bod ni’n gallu cynhyrchu trydan gyda llai o danwydd ffosil.

Gall ffermwyr ddefnyddio’r deunydd sydd ar ôl ar ddiwedd y driniaeth treulio anaerobig i wrteithio eu caeau. Mae hyn yn golygu bod ffermwyr angen llai o wrtaith cemegol. O ganlyniad, nid yw planhigion ac anifeiliaid yn cael niwed, gan fod llai o wrtaith cemegol yn golchi oddi ar gaeau i nentydd, afonydd a moroedd.

Mae dŵr yn cael ei ychwanegu at bapur a chardfwrdd i greu mwydion. Gellir eu sychu a’u troi’n gynhyrchion papur neu gardfwrdd newydd. Os rhowch chi bapur newydd allan i’w ailgylchu heddiw, gall fod yn ôl ar silff siop bapur newydd mewn cyn lleied â phythefnos.

Pan mae gwydr yn cyrraedd y cyfleuster ailgylchu, mae’n cael ei ddidoli yn ôl lliw a’i falu’n ddarnau mân o’r enw ysgyrion. Mae halogion yn cael eu tynnu o’r ysgyrion gan ddefnyddio magned, sugno gydag aer neu ddidolwyr laser. Mae’r ysgyrion yn cael eu toddi mewn ffwrnais ar dymheredd uwch na 1500ºC ac mae cynhwysion eraill yn cael eu hychwanegu. Wedyn mae’r gwydr hylif yn cael ei rannu’n dalpiau sy’n gallu cael eu chwythu neu eu pwyso’n boteli a jariau newydd sbon. Un nodwedd wych sy’n perthyn i wydr yw bod posib ei ailgylchu’n ddiddiwedd.

Mae caniau alwminiwm neu ddur yn cael eu toddi i wneud cynhyrchion, gan gynnwys caniau diodydd newydd, tuniau bwyd neu ddarnau i geir hyd yn oed.

Pan mae plastig yn cyrraedd y cyfleuster ailgylchu, mae’n cael ei ddidoli yn ôl math o bolymer, ei rwygo, ei olchi a’i droi’n beledi. Wedyn, mae’r gweithgynhyrchwyr yn defnyddio’r peledi hyn i wneud cynhyrchion plastig newydd fel poteli, tybiau, defnydd polyester ar gyfer dillad, a phibellau draenio.

Rhagor o wybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu gwybodaeth am i ble mae deunyddiau sy’n cael eu hailgylchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn mynd i gael eu troi’n gynhyrchion newydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Cyswllt

Glanhau’r Sir

Chwilio A i Y