Canolfannau Ailgylchu Cymunedol
Oriau agor yn ystod y pandemig
9am i 4pm. (Er mwyn creu lle i geir sydd eisoes yn ciwio ar y safle cyn i’r canolfannau ailgylchu gau am 4pm, cofiwch y gall y giatiau gael eu cau ugain munud yn gynnar.)
Trwyddedau Tipio
Os yw eich cerbyd yn fan neu dryc picyp, rhaid ei gofrestru gyda thrwydded tipio cyn ymweld â chanolfannau ailgylchu cymunedol Tythegston neu Faesteg. Mae hyn yn ein helpu ni i reoli’r gwaredu ar wastraff heb ddod o dai.
Hefyd bydd rhaid i chi gael trwydded os oes gan eich cerbyd drelar sydd rhwng 5 troedfedd a 6 troedfedd 6 modfedd (1.5m i 2m). Ni chaiff cerbydau neu drelars olwynion hir mawr sy’n fwy na 6 throedfedd (2m) ddefnyddio’r canolfannau ailgylchu cymunedol.
Nid yw ceir, jîps na cherbydau MPV, na threlars llai na 5 troedfedd, angen trwyddedau.
Sylwer nad yw canolfan Brynmenyn yn caniatáu faniau na threlars.
Cael trwydded dipio
Gallwch gael trwyddedau tipio am ddim trwy ffonio 01656 643643 o leiaf 48 awr cyn eich bod eisiau dod i un o’r canolfannau.
Bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:
- eich enw a’ch cyfeiriad
- rhestr o eitemau rydych am eu hailgylchu
- y dyddiad a’r ganolfan rydych am fynd iddi
- rhif cofrestru, gwneuthuriad a model eich cerbyd
Mewn rhai achosion gallai fod angen i ni edrych ar y gwastraff rydych am ei waredu cyn rhoi trwydded. Gellir gwneud hyn yn eich cartref.
Ymddygiad yn y domen
Rhaid didoli pob eitem a deunydd cyn cyrraedd y ganolfan ailgylchu. Yn unig dau o bobl fydd yn cael mynd allan o’r car i gael gwared ar y gwastraff.
Ni chaiff staff helpu i ddadlwytho na symud eitemau o geir oherwydd gofynion cadw pellter cymdeithasol, felly dim ond gwastraff y gall un person ei gario’n ddiogel ddylech chi ddod gyda chi.
Gan mai dim ond ychydig o geir fydd yn cael dod i mewn ar y tro, ni ddylai’r ymwelwyr gael unrhyw anhawster yn cadw pellter cymdeithasol yn y safleoedd. Gofynnir i unrhyw un sy’n gwrthod gwneud hynny adael ar unwaith, a hefyd unrhyw un sy’n annymunol gyda’r staff.
Yr hyn y gallwch ei ailgylchu yn eich canolfan leol
Cyn i chi fynd i’ch canolfan ailgylchu gymunedol leol, cadarnhewch ein bod yn gallu derbyn eich gwastraff. Gallwn ailgylchu:
- batris (car neu’r cartref)
- beiciau
- bric-a-brac
- bylbiau
- caniau
- cardbord
- deunyddiau plastig
- eitemau trydanol ac electronig
- gwastraff gwyrdd/gwastraff gardd
- metel sgrap
- oergelloedd/rhewgelloedd
- olew coginio
- olew modur
- paent
- papur
- poteli a jariau gwydr
- pren
- pridd
- silindrau nwy
- tecstilau
Nodwch:
Trefnwch eich ailgylchu cyn dod i’r ganolfan ailgylchu gymunedol i osgoi oedi. Gallwch roi bagiau o wastraff y cartref yn y sgip gwastraff cyffredinol, ond ni fyddant yn cael eu derbyn os ydynt yn cynnwys unrhyw ddeunydd y gellir ei ailgylchu.
Derbynnir asbestos yng Nghanolfan Llandudwg gyda thrwydded dipio’n unig. Bydd ffi’n berthnasol.
Mae bwrdd plastr, rwbel, pridd a chraidd caled yn cael eu hystyried yn wastraff adeiladu. Mae’r rhain wedi’u cyfyngu i ddau fag gydag uchafswm pwysau o 17kg yr un. Ni chaniateir ail ymweliadau o fewn y 30 diwrnod calendr nesaf. Os oes gennych symiau mawr o’r rhain, bydd angen i chi archebu sgip neu logi cwmni gwaredu gwastraff. Ni dderbynnir gwastraff masnach.
Dim ond yn y sgip plastrfwrdd fydd plastrfwrdd yn cael ei ganiatáu, ac nid yn y sgip gwastraff cyffredinol. Bydd rhaid tynnu unrhyw ddeunydd arall sydd ar y plastrfwrdd, fel teiliau, cyn ei dderbyn.
Peidiwch â gadael gwastraff y tu allan i’r canolfannau ailgylchu cymunedol. Gallech gael eich erlyn am dipio anghyfreithlon.
Lleoliadau
Mae tair canolfan ailgylchu gymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd. Mae’r rhain ym Mrynmenyn, Maesteg a Llandudwg.
Llandudwg
Cyfeiriad: Davies (Bros) Waste, Llandudwg, CF32 0NE.
Maesteg
Cyfeiriad: Ystâd Ddiwydiannol Heol Tŷ Gwyn, Maesteg, CF34 0BQ.
Bryncethin
Cyfeiriad: Ystâd Ddiwydiannol Brynmenyn, Brynmenyn, CF32 9SZ.