Eich cynwysyddion ailgylchu
Ailgylchu eich gwastraff cardfwrdd
Oherwydd y pandemig, mae oedi wedi bod gyda gweithgynhyrchu sachau ailgylchu oren newydd. Os oes arnoch chi angen archebu sach newydd ar gyfer eich gwastraff cardfwrdd, defnyddiwch focs cardfwrdd addas dros dro.
Fel dewis arall gallwch hefyd ddefnyddio eich bag eich hun a’i adael ar agor fel bod y criwiau’n gallu gweld ei gynnwys.
Gellir gosod darnau mawr o gardfwrdd drws nesaf i’ch bag neu eich bocs ar gyfer eu casglu. Mae disgwyl i sachau newydd gyrraedd erbyn mis Medi.
Sach ddefnydd oren ar gyfer cardfwrdd
Cofiwch gynnwys y canlynol:
- pecynnau cardfwrdd
- bocsys wyau
- cardiau pen blwydd
- cartonau diod cwyrog sydd hefyd yn cael eu galw’n becynnau tetra
Peidiwch â chynnwys papur.
Os oes gennych chi unrhyw ddarnau mawr ychwanegol o gardfwrdd, rhowch nhw wrth ymyl eich sach oren ar gyfer eu casglu.
Sach ddefnydd wen ar gyfer papur
Cofiwch gynnwys y canlynol:
- papur
- papur newydd
- cylchgronau
- cyfeirlyfrau ffôn
- catalogau, ond cofiwch dynnu unrhyw orchuddion cardfwrdd
- papur wedi’i rwygo – ychydig ar y tro
- post jync gan gynnwys amlenni
Peidiwch â chynnwys:
- papur wal
- papur lapio
- hancesi papur
- tyweli papur
- papur cegin
- cerdyn
Mae ailgylchu dim ond un cylchgrawn sgleiniog yn arbed digon o ynni i ferwi tegell naw gwaith.
Sach ddefnydd las ar gyfer plastigau a metelau
Cofiwch gynnwys y canlynol:
- poteli plastig fel poteli llaeth, diod a siampŵ
- cynwysyddion bwyd fel potiau iogwrt a thybiau mererin
- cwpanau plastig
- hambyrddau bwyd heb fod yn ddu
- pynets
- caniau aerosol gwag
- hambyrddau a chynwysyddion ffoil
- tuniau bwyd
- caniau diod
Peidiwch â chynnwys:
- plastig du
- bagiau plastig gan gynnwys bagiau cario, bagiau bara a bagiau bwyd rhew
- ffilm plastig, cling film a’r deunydd lapio sydd am felysion a bisgedi
- plastig LDPE 4
- pecynnau creision/ffoil cefn papur fel codau ffoil
- deunydd lapio swigod
- cloriau CD/DVD a fideo
- polystyren
- teganau a phlastig caled arall
- potiau planhigion
- paent chwistrell
- canisters nwy
Nid dim ond i ragor o boteli plastig mae poteli plastig yn cael eu hailgylchu. Mae posib eu hailgylchu yn grysau-t, dillad cnu, dodrefn a theganau plant hefyd.
Cadi brown ar gyfer gwastraff bwyd
I ailgylchu gwastraff bwyd, rhaid ei roi yn y cadi brown bach a rhaid leinio’r cadi gyda bag pydradwy gwyrdd. Pan mae’r bag yn llawn, rhaid ei glymu a’i roi yn y cadi brown mawr yn barod i’w gasglu. Mae hwn yn cynnwys y canlynol:
- bwyd wedi a heb ei goginio
- cig
- pysgod
- esgyrn
- crwyn
- bagiau te
- bwyd anifeiliaid anwes
Peidiwch â chynnwys:
- gwastraff gardd
- blodau wedi’u torri
Cofiwch ailgylchu sbarion bwyd neu fwyd heb ei fwyta sy’n cuddio yng nghefn eich oergell efallai. Tynnwch unrhyw becynnu i ddechrau, ac ailgylchu hwnnw hefyd os yw’n bosib.
Mae posib archebu rhagor o fagiau gwyrdd sy’n compostio drwy’r dudalen ‘cynwysyddion newydd neu gyfnewid’.
Cadi du ar gyfer gwydr
Cofiwch gynnwys y canlynol:
- poteli gwydr
- jariau gwydr
Peidiwch â chynnwys:
- cerameg a tsieina
- gwydrau yfed
- paenau gwydr
- pyrex
- bylbiau golau
Gellir ailgylchu gwydr drosodd a throsodd heb golli unrhyw ansawdd.
Rhowch ddillad a pharau o esgidiau mewn bag cario wrth ymyl gweddill eich deunyddiau i’w hailgylchu. Cofiwch gynnwys dillad gwely, cwiltiau a gobennydd.
Rhowch fatris, hen ffonau symudol a sbectolau mewn bag plastig clir fel bag brechdanau wrth ymyl gweddill eich deunyddiau i’w hailgylchu.
Gellir ailgylchu peiriannau tostio, tegellau, haearnau stilo, peiriannau sychu gwallt ac eitemau trydan eraill bychain drwy eu rhoi mewn bag cario ar wahân a’u gosod ar ochr y palmant. Nid yw unrhyw beth gyda sgrin, fel gliniadur neu deledu, yn addas ar gyfer y casgliad yma a dylid mynd â hwy i ganolfan ailgylchu gymunedol.
Cynwysyddion ailgylchu ychwanegol
Gallwn ddarparu cynwysyddion ailgylchu ychwanegol am nad oes unrhyw gyfyngiad ar faint o ddeunyddiau i’w hailgylchu y gallwch chi eu rhoi allan. Dylech ofyn am gynwysyddion ychwanegol os ydych yn ailgylchu mwy nag y gallwch ei ffitio yn eich cynwysyddion presennol yn rheolaidd.