Cynwysyddion ailgylchu newydd neu gyfnewid
Mae oedi ar hyn o bryd yn narpariaeth cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu oherwydd materion cyflenwi.
Defnyddiwch fagiau eraill dros dro, y gellir eu cadw ar agor fel y gall y tîm weld y cynnwys.
Os ydych yn disgwyl am fagiau gwastraff bwyd, am nawr, lapiwch bwyd dros ben mewn papur newydd. Mae gweithgynhyrchwyr yn gweithio i fynd I'r afael â’r ôl-groniad mor gyflym â phosibl, ac rydym yn gobeithio cael offer gwahanol i’w ddefnyddio’n hytrach, cyn bo hir.
Diolch am eich dealltwriaeth.
Gallwch wneud cais am gynwysyddion ailgylchu newydd a bagiau gwastraff bwyd drwy borthol ar-lein Kier.
- Nodwch eich cod post a phan ofynnir i chi, dewiswch eich cyfeiriad oddi ar y gwymprestr.
- Cliciwch ar ‘Casgliad ailgylchu’ ac wedyn dewis ‘Gwneud cais am gynhwysydd newydd/cyfnewid.’
- Llenwch y ffurflen ar-lein. Nodwch eich enw, eich cyfeiriad e-bost, y rheswm dros eich cais a dewis y cynhwysydd/cynwysyddion rydych chi eu hangen. Hefyd, gallwch nodi nifer y bagiau y mae arnoch eu hangen.
- Dewiswch ‘Gwneud Cais am Gynhwysydd’ er mwyn cwblhau’r cais.