Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ystod o ddigwyddiadau i nodi wythnos Gofalwyr 6 - 12 Mehefin 2022

Mae digon o wybodaeth a chymorth yn cael ei ddarparu ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan wasanaeth Llesiant Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr (The Care collective) a'u partneriaid yn ystod Wythnos Gofalwyr (6-12 Mehefin)

Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch blynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, gan amlygu'r heriau mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled y DU. Mae hefyd o gymorth i bobl nad ydynt yn ystyried eu hunain i fod â chyfrifoldebau gofalu i adnabod eu hunain fel gofalwyr ac i gael mynediad at gymorth sydd mawr ei angen. Felly, yn ystod Wythnos Gofalwyr, rydym yn dod ynghyd i sicrhau bod gofal yn cael ei Weld, ei Werthfawrogi a'i Gefnogi.

Dyma amserlen digwyddiadau Wythnos Gofalwyr:

Dydd Llun 6 Mehefin

  • Stondin wybodaeth Ymwybyddiaeth Gofalwyr, Y Rhiw, Pen-y-Bont ar Ogwr
  • Stondin wybodaeth Ymwybyddiaeth Gofalwyr, Ysbyty Tywysoges Cymru, gweithdy Gofalwyr Ifanc Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr, Ysgol Gynradd Llangrallo
  • Clwb Llyfrau zoom ar-lein, 2pm
  • Dosbarthu pecyn chwarae i rieni sy'n ofalwyr

Dydd Mawrth 7 Mehefin

  • Stondin gymorth a gwybodaeth gyda lluniaeth yng Nghanolfan Bywyd Y Pîl, 10.30 - 12.30pm
  • Coffi, te, cacen a bingo yn Eglwys Gymunedol Abercynffig, 1pm - 3pm
  • Stondin wybodaeth Ymwybyddiaeth Gofalwyr, Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Stondin wybodaeth Ymwybyddiaeth Gofalwyr, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr (Campws Pencoed a Phen-y-bont ar Ogwr) 11am - 1pm
  • Grŵp Gofalwyr Ifanc yn eu harddegau - gweithdy perthnasoedd iach gyda Brook Cymru a Nando's, Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, 5pm - 7pm

 

Dydd Mercher 8 Mehefin

  • Stondin gymorth a gwybodaeth gyda lluniaeth yn Hi Tide Inn, Porthcawl, 10am - 2pm
  • Taith gerdded y gofalwyr, Caeau Newbridge i Bont Drochi, Pen-y-bont ar Ogwr 10.30pm - 1pm
  • Parti Gardd gyda Lluniaeth yng Nghanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr o 12pm-3pm
  • Hyfforddiant ar-lein i rieni sy'n ofalwyr am orbryder gydag Autside, drwy zoom am 7pm

 

Dydd Iau 9 Mehefin

  • Stondin wybodaeth Ymwybyddiaeth Gofalwyr, Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Stondin wybodaeth Ymwybyddiaeth Gofalwyr, canol tref Porthcawl
  • Stondin wybodaeth Ymwybyddiaeth Gofalwyr, Halo leisure, Maesteg, 10am – 12pm
  • Stondin wybodaeth Ymwybyddiaeth Gofalwyr, Pwll Nofio Maesteg, 12.30 – 2.30pm
  • Galw heibio i ofalwyr, The Mem, Nantymoel, 10am – 12pm
  • Yr hudlath hyder, Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, 10am - 11am
  • Delio â phoen corfforol drwy hypnotherapi, Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, 11.30am - 12.30pm
  • Grŵp gofalwyr dementia, Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, 1pm - 3pm
  • Bore coffi rhieni sy'n ofalwyr, Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, 9am

 

Dydd Gwener 11 Mehefin

  • Stondin wybodaeth Ymwybyddiaeth Gofalwyr, Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Stondin wybodaeth Ymwybyddiaeth Gofalwyr, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr (Campws Pencoed) 'Gŵyl Ein Dyfodol' 10am - 2pm

Dywedodd Aelod Cabinet Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Wasanaethau Cymdeithasol, Jane Gebbie: "Mae Wythnos Gofalwyr yn ymwneud â dathlu gwaith hanfodol gofalwyr bob dydd a chodi proffil o beth sydd ei angen ar ofalwyr fel cymorth yn eu swyddi hanfodol, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i'r rhai sydd ddim yn ymwybodol o'r gwasanaethau a'r buddion y mae ganddynt hawl iddynt. Gofalwr yw rhywun sy'n cynorthwyo aelod o'r teulu, partner neu ffrind sydd methu ymdopi ar eu pen eu hunain a gall gofalwr fod yn unrhyw oed.

"O fewn Pen-y-bont ar Ogwr mae yna oddeutu 18,000 o Ofalwyr sy'n oedolion a 2000 o ofalwyr ifanc, er fe all fod llawer mwy ond nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn ofalwyr nac wedi eu hadnabod.  Yn ychwanegol, mae'r pandemig, heb os, wedi creu miloedd o Ofalwyr di-dâl, gyda ffigyrau yn ôl pob tebyg wedi codi i oddeutu 22,000.

“Ar draws y DU, mae miloedd o bobl sy’n ofalwyr yn gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sydd ag anabledd, salwch meddwl neu salwch corfforol, sydd angen help ychwanegol wrth iddynt dyfu’n hŷn. 

"Mae nifer yn wynebu'r dasg anodd o gydbwyso cyfrifoldebau gofal a gwaith, addysg neu fywyd teuluol neu'n gorfod ildio eu hincwm a'u hawl i bensiwn i ofalu am anwyliaid. Maen nhw, mewn sawl ffordd, yn weithlu anweledig ond yn rhai na allwn wneud hebddynt. Maen nhw'n haeddu ein clod, ein diolch a'n cefnogaeth."

Am ragor o fanylion am y digwyddiadau uchod, ewch i wefan The Care Collective neu wefan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

Dysgwch fwy am Wythnos Gofalwyr 2022 drwy fynd iwww.carersweek.org

Chwilio A i Y