Ystafelloedd dosbarth a mannau dysgu ychwanegol wedi’u creu mewn ysgolion
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 01 Hydref 2021
Mae ystod o brosiectau adeiladu wedi bod ar waith mewn ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gydag ystafelloedd dosbarth a mannau dysgu ychwanegol yn cael eu creu.
Wedi’i ariannu gan Grant Cynnal Cyfalaf Ysgolion Llywodraeth Cymru gwerth £500,000, cafodd gwaith ei gynnal yn ystod gwyliau’r haf, gyda phrosiectau pellach ar y gweill yn ystod y misoedd nesaf.
Yn Ysgol Gyfun Bryntirion, mae addasiadau i’r llyfrgell dros wyliau’r haf wedi helpu i greu mannau llai er mwyn galluogi gwaith grŵp. Mae wal partisiwn plyg newydd yn cynnig opsiwn cael un ardal agored neu ddwy ystafell lai, gyda’r ysgol yn defnyddio’r ardal ar gyfer sesiynau grŵp ar gyfer deg i 15 dysgwr. Yn ogystal, mae pwynt mynediad hygyrch wedi’i greu ger un o’r allanfeydd tân, yn arwain allan i’r cyrtiau tennis.
Yn Ysgol Gynradd Trelales, mae dwy ystafell ddosbarth wedi’u hagor i greu trydedd ystafell ddosbarth ychwanegol, gyda dau ddrws wedi’u gosod i arwain at iard y tu allan. Mae grisiau, landin a ramp allanol hefyd wedi’u hadeiladu, gyda'r ystafelloedd dosbarth yn cael eu hailaddurno a gwresogyddion newydd wedi’u gosod.
Yn y cyfamser, yn Ysgol Gyfun Pencoed, mae cynlluniau dros y misoedd nesaf i ailddatblygu tŷ’r gofalwr i fod yn ardal ddysgu ddomestig newydd ar gyfer disgyblion, gyda chegin, ystafelloedd gwely a gardd. Bydd mannau llai ar gyfer disgyblion sydd ag anawsterau dysgu cymedrol hefyd yn cael eu creu, tra y bydd yr ardal i fyny’r grisiau’n cael ei throi’n swyddfa.
Mae’r cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi ysgolion i gynnig ystod o gyfleusterau ychwanegol ar gyfer disgyblion, a oedd mawr eu hangen. Rydym yn edrych ymlaen at weld rhagor o brosiectau’n mynd rhagddynt yn y dyfodol agos mewn nifer o ysgolion eraill.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio