Ystafell ddosbarth ychwanegol i’w hadeiladu yn Ysgol Gynradd Cwmfelin
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 26 Mehefin 2018
Bydd ystafell ddosbarth newydd yn cael ei hadeiladu er mwyn darparu mwy o le angenrheidiol yn Ysgol Gynradd Cwmfelin.
Mae Aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i wario £165,000 ar yr ystafell ddosbarth, a gaiff ei hadeiladu ar dir yn agos at adeilad y feithrin.
Er gwaethaf y ffaith fod y staff yn gwneud y defnydd gorau o safle'r ysgol, nid oes digon o ystafelloedd dosbarth yn Ysgol Gynradd Cwmfelin, felly rydym i gyd yn gytûn fod angen y buddsoddiad hwn.
Bydd yr ystafell ddosbarth newydd yn darparu digon o le ar gyfer 20 o ddisgyblion, ac yn rhoi mwy o le i’r ysgol ar gyfer gwaith grŵp a darparu ymyrraeth ar gyfer disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol.
Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio