Ysgolion yn paratoi i agor ar gyfer sesiynau dal i fyny
Poster information
Posted on: Dydd Iau 18 Mehefin 2020
Mae ysgolion ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn paratoi i groesawu disgyblion yn ôl i'r ysgol fel rhan o sesiynau 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi' Llywodraeth Cymru.
Mae'r sesiynau, a fydd yn dechrau ddydd Llun 29 Mehefin, wedi'u cynllunio i baratoi disgyblion i ddychwelyd yn raddol i wersi arferol ym mis Medi, a byddant yn rhoi dau ddiwrnod i bob plentyn sy'n cymryd rhan i baratoi ar gyfer cam nesaf ei addysg pan fydd y flwyddyn ysgol newydd yn dechrau ym mis Medi.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio ochr yn ochr â phob ysgol i gefnogi ei pharatoadau a sicrhau bod y plant yn gallu cymryd rhan yn y sesiynau yn ddiogel. Yn unol â'r canllawiau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, bydd gweithdrefnau glanhau trylwyr a mesurau cadw pellter cymdeithasol llawn ar waith ym mhob ysgol.
O fewn pob ysgol, bydd nifer o fesurau rheoli ar waith. Gyda niferoedd llai o ddisgyblion ym mhob dosbarth a goruchwyliaeth lawn ar waith, bydd egwyliau ac amseroedd cinio yn digwydd ar adegau gwahanol i sicrhau nad yw disgyblion yn ymgynnull mewn grwpiau mawr. Bydd unrhyw weithgareddau sy'n cynnwys cyswllt rhwng plant yn cael eu lleihau, ynghyd â'r defnydd o offer a'i rannu.
Caiff arferion golchi dwylo a hylendid cadarn eu hyrwyddo a'u hannog drwy gydol y dydd, a bydd hylif diheintio dwylo ar gael i bawb. Bydd ardaloedd sy'n cael eu defnyddio'n gyson fel toiledau, sinciau a drysau yn cael eu glanhau'n fwy rheolaidd, a bydd athrawon a staff yn wyliadwrus ac yn rhoi gweithdrefnau parod ar waith os bydd unrhyw un yn dangos symptomau posibl.
Anogir rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr i sicrhau bod eu plant yn deall pwysigrwydd golchi eu dwylo'n rheolaidd, gan gynnwys cyn gadael eu cartrefi, wrth gyrraedd yr ysgol, ar ôl defnyddio'r toiled, yn dilyn egwyliau a gweithgareddau corfforol, cyn bwyta, cyn gadael yr ysgol ac eto cyn gynted ag y byddant yn cyrraedd adref.
Yn unol â chyngor y llywodraeth, anogir disgyblion a'u teuluoedd i ddefnyddio ffyrdd amgen o deithio i’r ysgol ac oddi yno ar gyfer y sesiynau. Atgoffir y rheini sy'n teithio mewn car i barcio'n gyfrifol wrth ymweld ag ysgolion lleol, ac ni ddylai rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid ymgasglu mewn grwpiau os ydynt yn gollwng eu plant neu'n aros i'w casglu. Bydd cludiant ysgol ar gael i rheini nad oes ganddynt opsiwn arall ar gyfer teithio i’r ysgol ac oddi yno, a bydd trefniadau cadw pellter cymdeithasol a glanhau ar waith ar bob un o gerbydau'r ysgol.
Drwy gynnig dau ddiwrnod i bob disgybl, gallwn roi llai o alw ar y lle sydd ar gael yn yr ysgol, a lleihau'r risg o beidio â gallu darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol dros gyfnod hwy. Mae hefyd yn cael gwared ar y risg o beidio â gallu darparu gofal plant brys digonol o ganlyniad i'r galw gormodol am leoedd, yn sicrhau bod ysgolion yn gallu cynnal lefelau staffio diogel, ac yn cynnig mwy o gyfle i ysgolion ddarparu adnoddau addysgu a dysgu ar-lein o safon uchel i'r disgyblion hynny sy'n parhau i wneud eu gwaith ysgol gartref.
I sicrhau bod hyn yn gweithio ac i helpu i gadw plant, athrawon a staff yn ddiogel, mae angen dweud wrth y plant gartref pa mor bwysig yw hi i ddilyn y rheolau ynghylch COVID-19, ac i barhau i fod yn wyliadwrus ynghylch unrhyw arwyddion o symptomau o ran eu hunain a'u ffrindiau. Ni ddylai unrhyw blentyn gael ei anfon i unrhyw un o'r sesiynau os oes ganddo dymheredd uchel neu beswch parhaus newydd neu os yw wedi colli synnwyr arogl a blas.
Os bydd y plentyn hwnnw neu unrhyw un arall yn y cartref yn dangos y symptomau hyn, rhaid dilyn y canllawiau cenedlaethol ar aros gartref a chadw pellter cymdeithasol. Mae'r ysgolion yn cysylltu â rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid yn uniongyrchol gyda manylion pellach ynghylch sut y bydd y sesiynau hyn yn gweithio. Gyda'ch help a'ch cyfranogiad parhaus chi, gallwn ddarparu'r sesiynau'n ddiogel a pharhau i ddiogelu llesiant y disgyblion, yr athrawon a'r staff.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio