Ysgolion yn derbyn miloedd o ddyfeisiau i gynorthwyo gwaith dysgu gartref
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 09 Chwefror 2021
Mae miloedd o ddyfeisiau wedi cael eu dosbarthu i ysgolion ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac wedi helpu'r gwaith addysgu i ddigwydd o bell ers cychwyn pandemig y coronafeirws.
Mae ysgolion yn y fwrdeistref sirol wedi derbyn mwy na 4,500 o ddyfeisiau gan brosiect Hwb Llywodraeth Cymru ers mis Chwefror 2020, gyda'r bwriad o ddosbarthu 2,000 o ddyfeisiau ychwanegol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
Maent yn cynnwys gliniaduron, cyfrifiaduron, Chromebooks ac iPads i'w defnyddio mewn ysgolion, ac i helpu disgyblion sydd wedi'u heithrio'n ddigidol, fyddai'n cael trafferth i ymuno mewn gwersi o gartref.
Mae'r 2,000 o ddisgyblion sydd wedi'u heithrio'n ddigidol yn ôl ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol bellach wedi derbyn cymorth gan y cyngor, ac mae bob un wedi derbyn y cit sydd ei angen arnynt i ddysgu o gartref.
Mae hyn yn cynnwys cymysgedd o offer hen a newydd, 500 o liniaduron a gafodd eu prynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, 550 o liniaduron hŷn a gafodd eu hailadeiladu fel Chromebooks, a 310 o donglau Mi-Fi i gael mynediad at y rhyngrwyd gartref, a gafodd eu prynu gan ddefnyddio arian gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Robbie Owen, Pennaeth Ysgol Gynradd Penybont: "Mae prosiect Hwb Llywodraeth Cymru wedi ein galluogi ni i ddarparu dyfais i bob dysgwr a fyddai wedi cael ei eithrio'n ddigidol fel arall, er mwyn gallu dysgu o bell.
"Mae'r prosiect wedi sicrhau bod bob disgybl yn cael yr un cyfleoedd i gael gafael ar waith a chadw mewn cysylltiad gyda'u hathrawon a chyfoedion.
"Ar ôl derbyn cymorth gan y prosiect hwn, mae 91% o ddisgyblion wedi ymgysylltu gyda dysgu oddi ar safle, yn cynnwys tasgau dyddiol, sesiynau gwirio byw gydag athrawon, sesiynau adborth a llesiant hanfodol byw.
"Mae'r rhieni a disgyblion sydd wedi derbyn dyfeisiau gennym ni wedi bod yn ddiolchgar iawn, ac wedi dangos parodrwydd i ddysgu drwy ymgysylltu'n sylweddol gyda'r ddarpariaeth oddi ar y safle."
Dywedodd Theo, disgybl blwyddyn 6: "Rwyf wedi gallu parhau gyda fy ngwaith ysgol a chael cymorth gan fy athro drwy ddefnyddio'r gliniadur gan yr ysgol. Rwyf hefyd wedi gallu cadw mewn cysylltiad gyda fy ffrindiau yn y sesiynau byw."
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae staff ysgolion wedi gweithio'n galed iawn i helpu dysgwyr i barhau i ddysgu gartref yng nghanol yr heriau sydd wedi codi yn sgil pandemig Covid-19.
"Diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru, mae'r cyngor wedi gallu dosbarthu gliniaduron a donglau i fwy na 2,000 o ddysgwyr sydd wedi'u heithrio'n ddigidol ar draws y fwrdeistref sirol, er mwyn iddynt barhau â'u gwaith ysgol a chadw mewn cysylltiad â'u hathrawon a chyd-ddisgyblion.
"Mae gennym rai gliniaduron a donglau yn barod i'w darparu os bydd rhagor o ddysgwyr sydd wedi'u heithrio'n ddigidol yn cael eu hadnabod.
“Mae ysgolion yn parhau i gynnig cyfuniad o strategaethau dysgu i fodloni anghenion disgyblion wrth i ddisgwyl am ganllawiau gan Lywodraeth Cymru ar pryd y cânt ddychwelyd i'r dosbarth.
“Diolch i'n hathrawon, disgyblion a'u rhieni a gofalwyr, am eu hamynedd a'u dealltwriaeth barhaus."