Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgolion yn dathlu canlyniadau Lefel A gwych ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae llawer i'w ddathlu wrth i ddisgyblion ledled ysgolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael canlyniadau Safon Uwch da iawn eto eleni.

Mae cyfran y graddau A*-A wedi cynyddu 6.6%. Mae’r ffigur ledled y sir wedi codi i 26.7%, gan gau’r bwlch rhwng ffigur y sir a ffigur Cymru gyfan.

Mae myfyrwyr mwyaf galluog y fwrdeistref sirol wedi rhagori hefyd. Mae cyfran y disgyblion sydd wedi cael tair gradd A*-A wedi cynyddu 3.3% – o 9.2% i 12.5% tra mae nifer y disgyblion sydd wedi cael tair gradd A*-C wedi cynyddu i 57.5% – sy’n gynnydd o 1%.

Mae nifer y myfyrwyr a gafodd ddwy Safon Uwch neu fwy wedi cynyddu i 98.8%, ac mae’r nifer a gafodd A*-E wedi cynyddu i 97.4%, sy’n cymharu’n ffafriol â’r ffigur Cymru gyfan – 97.6%.

Mae perfformiad disgyblion wedi bod gryf yn y Fagloriaeth Gymreig hefyd, gyda phob ysgol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch i ddarparu’r sgiliau mae eu hangen ar fyfyrwyr ar gyfer addysg uwch a chyflogaeth.

Mae’r canlyniadau eleni yn dangos perfformiad sy’n gwella’n barhaus, yn enwedig ymysg y graddau uwch, lle mae ein hysgolion wedi llwyddo i gael canlyniadau rhagorol drwy weithio gyda rhai o'n disgyblion mwyaf abl a thalentog.

Roedd llwyddiannau unigol nodedig ym mhob ysgol, ac fe hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion ar y llwyddiannau maent wedi gweithio’n galed iawn i'w cael. Hoffwn hefyd ddiolch i athrawon, staff cymorth, llywodraethwyr a rhieni am eu hymroddiad a’u cymorth cyson.

Cynghorydd Hywel Williams, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Ychwanegodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio: “Mae’n braf iawn gweld disgyblion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn llwyddo unwaith eto, a chymaint ohonynt yn cael mynd i astudio'r cyrsiau prifysgol o’u dewis cyntaf. Rydw i’n falch iawn o longyfarch Ioan Lloyd o YGG Llangynwyd yn enwedig, a lwyddodd i gyflawni'r gamp anhygoel o gael pum gradd A* yn ei arholiadau'r haf hwn.”

Chwilio A i Y