Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgolion, llyfrgelloedd a chanolfannau dydd i gau ar ôl rhybudd coch Storm Eunice

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhybuddio trigolion i ddisgwyl aflonyddwch o ganlyniad i Storm Eunice ddydd Gwener 18 Chwefror.

Bydd Storm Eunice yn dechrau tua 3am bore Gwener ac yn dod â glaw trwm dros nos a gwyntoedd cryfion i'r fwrdeistref sirol, a fydd yn parhau i gryfhau a dod yn fwy garw yn ystod y dydd. Rhagwelir i’r storm barhau drwy’r dydd, tan tua 9pm nos Wener.

 

Diweddariadau

Dydd Llun 21 Chwefror

  • 11:20am - Bydd Parc Gwledig Bryngarw yn ailagor am 1pm heddiw. Bydd y caffi yn parhau ar gau am y dydd.
  • 10:00am - Bydd Heol y Frenhines, Pen-y-bont ar Ogwr a Heol John, Porthcawl (wrth y gyffordd gyda Stryd y Ffynnon) yn parhau ar gau hyd nes y gellir cynnal archwiliadau ar adeilad.

 

Dydd Gwener 18 Chwefror

  • 5.00pm - Yn dilyn y difrod a achoswyd gan Storm Eunice i eiddo masnachol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, bydd angen parhau i gadw’r ffordd ar gau ar hyd Heol y Frenhines wrth i beirianwyr strwythurol fynd ati i wneud y cyfan yn ddiogel i gerddwyr a thraffig.

    Mae arwyddion newydd yn cael eu gosod a bydd danfoniadau i ganol y dref ar ddydd Sadwrn yn cael eu dargyfeirio drwy Heol Caroline – gofynnir i yrwyr fod yn ofalus wrth yrru ar y ffordd hon.

  • 3:30pm - Mae pob un o ganolfannau hamdden Halo bellach wedi ail-agor. Cynghorir i gwsmeriaid Pwll Nofio Pencoed beidio â defnyddio’r llwybr cerdded ar ochr yr adeilad gan fod coeden wedi cwympo yno.

  • 2:24pm - Mae disgwyl i Ganolfannau Ailgylchu Cymunedol ailagor fel arfer yfory.

  • 2:00pm - Newyddion diweddaraf: 'Storm Eunice yn cyrraedd y fwrdeistref sirol'

  • 12:44pm - Rydym wedi derbyn adroddiadau am do Canolfan Gymunedol Evanstown, mae tîm wedi cael ei anfon i gynnal asesiad risg a diogelu’r to os oes angen. Anogir trigolion i osgoi’r ardal a chadw’n ddiogel.

  • 11:45am - Mae Heol y Frenhines Pen-y-bont ar Ogwr ar gau i gerddwyr a cherbydau ar hyn o bryd oherwydd malurion a gwyntoedd cryfion.
  • 11:40am - Mae Heol John ym Mhorthcawl ar gau i gerddwyr a cherbydau ar hyn o bryd oherwydd gwyntoedd cryfion a theils to yn disgyn.

  • 10:30am: Bydd yr holl ganolfannau ailgylchu cymunedol yn aros ar gau heddiw. Bydd pob trwydded safle tirlenwi a drefnwyd ar gyfer heddiw yn ddilys i’w defnyddio unwaith y bydd y canolfannau ailgylchu yn ailagor.

  • 10:00am: Mae partneriaid gwastraff y cyngor, Kier, wedi cadarnhau’r canlynol:
    • Bydd casgliadau ailgylchu nad ydynt yn mynd rhagddynt heddiw yn cael eu casglu ddydd Gwener nesaf ar 25 Chwefror yn hytrach. (Caiff trigolion nad oes ganddynt le digonol yn eu blychau ddefnyddio bagiau siopa agored ar gyfer ailgylchu ychwanegol).
    • Bydd ysbwriel na fydd yn cael ei gasglu heddiw yn cael ei gasglu ar ddydd Sadwrn 26 Chwefror.
    • Bydd yr holl gasgliadau eraill yn parhau fel arfer yr wythnos nesaf.

  • 9:00am: Mae canolfannau hamdden Halo ar gau ar hyn o bryd.

 

Dydd Iau 17 Chwefror

  • 22:52pm: Ni fydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn digwydd ddydd Gwener bellach fel y cynlluniwyd yn wreiddiol.

    Bydd yn rhaid i bob Canolfan Ailgylchu Cymunedol gau ar ddydd Gwener 18 Chwefror hefyd am resymau iechyd a diogelwch.

  • 5:23pm: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau y bydd canolfan frechu coronafeirws Ravens Court a’r safleoedd profi symudol ym Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr ar gau drwy’r dydd yfory.

  • 5:22pm: Bydd ffordd fynydd yr A4061 Bwlch ar gau o hanner nos. Caiff hyn ei adolygu drwy gydol y dydd yfory gan ailagor pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny.

  • 2:30pm: Oherwydd y tywydd eithriadol a ddisgwylir yfory, bydd holl ysgolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cau ddydd Gwener 18 Chwefror (gan symud i drefniant o ddysgu ar-lein yn unig). Bydd ysgolion yn rhannu rhagor o wybodaeth y prynhawn yma.

    Bydd llyfrgelloedd, canolfannau dydd i oedolion a Pharc Gwledig Bryngarw hefyd yn cau, a chynghorir yn gryf i drigolion ac ymwelwyr gadw draw o'r arfordir, yn enwedig ym Mhorthcawl.

    Bydd casgliadau ailgylchu a gwastraff yn cael eu cynnal yn ôl yr arfer, ond bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu’n barhaus, a chynghorir trigolion i gadw llygad ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y cyngor am ragor o ddiweddariadau. Cynghorir trigolion hefyd i sicrhau eu bod yn gosod eu cynwysyddion allan, fel bod criwiau yn medru pacio'r sachau ailgylchu gwag dan do, er mwyn osgoi iddynt gael eu heffeithio gan y gwyntoedd cryfion.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai ardaloedd arfordirol brofi gwyntoedd o thua 90mya, ac ymhellach i mewn i’r tir hefyd, a gall adeiladu a thai cael eu difrodi, yn ogystal â choed yn cael eu diwreiddio, toriadau pŵer, llifogydd, amhariadau teithio, gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu canslo a mwy. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi rhybuddio y gallai'r gwyntoedd cryfion achosi anafiadau sy'n gysylltiedig â malurion, a bod posib i donnau mawr, sy’n gyffredin yn ystod 'ymchwydd storm' llanw uchel, arwain at greigiau a deunyddiau eraill yn cael eu taflu i'r lan.

Dylai pawb geisio osgoi ymweld â’r arfordir yn ystod y storm, ond oes rhaid i chi fod yno, byddwch yn hynod o wyliadwrus, a sicrhewch eich bod yn cadw pellter diogel oddi wrth y môr.

Rwyf hefyd eisiau apelio at bobl a allai fod yn ystyried mynd i geisio tynnu lluniau yn ystod y tywydd garw, gan gofyn iddynt ailfeddwl – mae disgwyl i hon fod yn storm arbennig o arw, ac nid yw'n werth mentro a chael anaf, neu waeth, yn enwedig o ystyried bod gan yr RNLI ffrwd gamera fyw o Forglawdd y Gorllewin, y gallwch ei wylio o bell.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Mae ein gweithwyr priffyrdd wrthi'n gwirio gylis, ffosydd a draeniau er mwyn sicrhau eu bod yn glir cyn i'r storm ein cyrraedd, ac maent hefyd wedi paratoi dros 3,500 o fagiau tywod i'w dosbarthu i drigolion mewn achos o lifogydd.

Gan ddefnyddio offer, sy’n amrywio o beiriannau JCB a llifiau cadwyn i jetiau cafnau arbenigol, bydd gweithwyr ar ddyletswydd drwy gydol y storm er mwyn cadw ffyrdd yn agored a chartrefi, pobl ac eiddo yn ddiogel.

Bydd y cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod cyn lleied o drafferthion â phosibl, ond rwy'n annog trigolion i gynllunio ymlaen llaw, a chadw llygad ar y newyddion ac ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau rheolaidd wrth i'r storm fynd rhagddi.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Y Swyddfa Dywydd 

Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd i weld y newyddion a chyngor diweddaraf ynghylch rhybuddion tywydd y DU.

Cyfoeth Naturiol Cymru

Am gyngor a chanllaw ar lifogydd, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Traveline Cymru

Mae’r cyngor diweddaraf ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus ar gael ar wefan Traveline Cymru.

Chwilio A i Y