Ysgolion lleol yn chwilio am ddynion a menywod 'lolipop'
Poster information
Posted on: Dydd Llun 12 Hydref 2020
Mae dwy swydd wag ar gyfer Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn cael eu hysbysebu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i helpu i'w gwneud hi'n fwy diogel i blant a rhieni groesi ffyrdd prysur ar eu ffordd yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.
Ar hyn o bryd mae gan y cyngor ddwy swydd wag ar gyfer Hebryngwyr Croesfannau Ysgol - un yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig ac un yn Ysgol Gynradd Bryncethin.
Mae pawb yn cytuno ei bod yn bwysig cael hebryngwyr croesfannau mewn ysgolion lleol ar draws y fwrdeistref ond mae'r swyddi hyn yn aml yn anodd eu llenwi oherwydd yr oriau gwaith anarferol sy'n cwympo bob ochr i amseroedd y mae ysgolion yn dechrau a gorffen.
Byddem wrth ein bodd clywed gan aelodau o’r gymuned a all ddangos ymwybyddiaeth o draffig, ymdeimlad o gyfrifoldeb, ac sy’n awyddus i ddangos ymroddiad ac ymrwymiad wrth gyflawni swydd bwysig iawn i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i gerddwyr.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, Richard Young
Mae'r swydd yn cynnwys stopio traffig i gynorthwyo cerddwyr i groesi'r ffordd, cadw golwg am beryglon posibl ger ardaloedd croesi, a helpu i addysgu plant ar faterion diogelwch ar y ffyrdd. Bydd gwisg yn cael ei darparu a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio tua chwech neu saith awr yr wythnos.
I wneud cais am un o'r swyddi hyn ewch i'r dudalen swyddi ar wefan y cyngor. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd 01656 642529.