Ysgolion i aros ar gau o ganlyniad i niferoedd uchel o achosion coronafeirws
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 08 Ionawr 2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ysgolion a cholegau’n parhau ar gau tan hanner tymor mis Chwefror oni bai bod gostyngiad sylweddol mewn achosion coronafeirws cyn 29 Ionawr - diwedd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau cyfredol.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod pandemig y coronafeirws wedi cyrraedd “pwynt arwyddocaol” gydag achosion yng Nghymru yn parhau i fod yn “uchel iawn” a’r GIG “dan bwysau go iawn a pharhaus”.
Mae'n golygu, er y bydd darpariaeth yn yr ysgol ar gyfer plant oed ysgol gynradd gweithwyr hanfodol a dysgwyr agored i niwed (hyd at a chan gynnwys Blwyddyn 8) yn parhau, bydd mwyafrif y plant a'r bobl ifanc yn parhau i ddysgu gartref.
Ail-ddechreuodd dysgu ar-lein i holl ddisgyblion Pen-y-bont ar Ogwr ar ddydd Mercher 6 Ionawr.
Dywedodd Charles Smith, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Addysg ac Adfywio: “Mae’r holl ysgolion yn parhau i gynnig cyfuniad o strategaethau dysgu i gwrdd ag anghenion disgyblion. Lle bo’n briodol, bydd dysgu ar-lein byw yn ailgychwyn o ddydd Llun 11 Ionawr.
“Fel rhan o’r broses, mae ysgolion wedi cynnal arolygon i sicrhau bod gan y rhai sydd wedi’u cau allan yn ddigidol fynediad at gyfrifiadur cartref boed hynny trwy un wedi’i adnewyddu o’r ysgol neu ddarparu band eang symudol.
“Mae rhieni a gofalwyr yn ddealladwy yn bryderus, mae pawb eisiau gwneud y peth iawn i’w plant ac mae ysgolion yn gweithio'n agos gyda rhieni a gofalwyr i ddarparu cymaint o gefnogaeth â phosib. Os yw rhieni/gofalwyr yn wynebu unrhyw broblemau, gofynnwn iddynt gysylltu â’r ysgol yn yr achos cyntaf.
“Er y bydd rhai gwersi’n cael eu ffrydio’n fyw, ni fydd rhai eraill ac mae yna resymau da dros hynny. Weithiau mae angen i ddysgwyr fynd i ffwrdd i wneud gweithgaredd ar eu pennau eu hunain a bod i ffwrdd o'r sgrin, a rhoi eu hadborth yn ddiweddarach pan fyddant wedi'i gwblhau.
“Mewn amgylchiadau eraill, er nad oes cyswllt fideo, mae’r athro yno’n gosod gweithgareddau ac yn darparu cefnogaeth i ddisgyblion wrth iddynt eu cwblhau.
“Mae Consortiwm Canol y De wedi darparu ystod o hyfforddiant i ysgolion yn dibynnu ar eu ceisiadau gyda llawer yn cael cefnogaeth bwrpasol ar gyfer adnoddau a geir yn Hwb, platfform ar-lein Llywodraeth Cymru.”
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.