Ysgol yn y fwrdeistref sirol i gymryd rhan mewn cynllun peilot pleidleisio unigryw
Poster information
Posted on: Dydd Llun 14 Chwefror 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar fin cymryd rhan mewn cynllun peilot pleidleisio unigryw sy'n ceisio cael mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn etholiadau lleol.
Bydd y cynllun peilot, yr unig un o’i fath yng Nghymru, yn gweld dwy orsaf bleidleisio yn agor yn Ysgol Gyfun Cynffig ar y dydd Mawrth cyn y Diwrnod Pleidleisio rhwng 8.30am a 4.30pm.
Bydd myfyrwyr sy'n byw naill ai yn ward Corneli neu ward y Pîl, Mynydd Cynffig a Chefn Cribwr ac sydd wedi cofrestru i bleidleisio, yn gallu bwrw eu pleidlais yn yr ysgol yn ystod oriau ysgol.
Gallant hefyd ddewis bwrw eu pleidlais mewn gorsaf bleidleisio yn lle’r ysgol.
Nod y peilot yw rhoi cyfle i fyfyrwyr cymwys bleidleisio am y tro cyntaf mewn amgylchedd cyfarwydd a dechrau'r arferiad o bleidleisio.
Mae’r cynllun peilot yn Ysgol Gyfun Cynffig yn arbennig o gyffrous a bydd yn galluogi disgyblion 16+ oed i bleidleisio mewn amgylchedd y maen nhw’n gyfforddus ag ef.
Gobeithio y bydd hyn yn annog cymaint o gyfranogiad â phosib ymhlith pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn y dyfodol.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Mae’r cyngor eisiau gwella cyfraddau cofrestru ymhlith yr holl bobl ifanc 16 ac 17 oed. I gael eich cynnwys ar y gofrestr etholwyr fel y gallwch bleidleisio mewn etholiadau neu refferenda, cofrestrwch ar wefan Llywodraeth y DU.