Ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr y gyntaf i dderbyn gwobr am gymorth awtistiaeth
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 07 Gorffennaf 2021
Ysgol Gyfun Bryntirion yw'r ysgol gyntaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gael ei gwobrwyo am ei hymdrechion i gefnogi awtistiaeth yng nghymuned yr ysgol.
Mae'r ysgol wedi treulio'r 2 flynedd ddiwethaf yn codi ymwybyddiaeth o Awtistiaeth ymysg ei rhanddeiliaid - athrawon, staff cefnogi, disgyblion, glanhawyr, staff cyfleusterau safle, Corff Llywodraethu a staff gweinyddol.
Mae'r dystiolaeth a gasglwyd a'r strategaethau sydd wedi'u rhoi ar waith wedi cael eu gwerthuso gan Awtistiaeth Cymru, ac o ganlyniad, Bryntirion yw 21ain ysgol uwchradd yng Nghymru i dderbyn Gwobr Dysgu gydag Ysgol Uwchradd Awtistiaeth.
Mae Awtistiaeth Cymru'n dweud fod y wobr yn cydnabod dull ysgol gyfan at wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion disgyblion awtistig.
Dywedodd Ravi Pawar, pennaeth Bryntirion: "Rydym yn falch o fod ynghlwm â Rhaglen Dysgu gydag Ysgol Uwchradd Awtistiaeth.
"Cafodd y rhaglen ei gwerthuso gan Awtistiaeth Cymru, a ni yw'r ysgol gyntaf ym Mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr i dderbyn y wobr.
"Rydym yn falch iawn o'r cyflawniad hwn, a'n holl ddysgwyr sydd ag awtistiaeth.
"Mae gan Bryntirion draddodiad o ddarparu amgylchedd gofalgar a diogel i bob disgybl, ac mae'n meddu ar yr arbenigedd allweddol o ran darparu cefnogaeth arbenigol i ddisgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
"Rydym yn ymfalchïo yn ein cyfoeth o ddarpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac mae hwb adnoddau ar gael i ddisgyblion gydag anhwylderau cyfathrebu.
"Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar y profiad ysgol mae disgyblion awtistig yn ei gael."
Rydym yn hynod falch o lwyddiannau Ysgol Gyfun Bryntirion o ennill y wobr hon gan Awtistiaeth Cymru.
Mae'n gydnabyddiaeth addas i'r holl waith caled ac ymdrech y mae'r ysgol yn ei wneud i sicrhau bod plant ag awtistiaeth yn cael y profiad ysgol gorau posibl.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio