Ysgol gynradd yn cau ar ôl i staff brofi’n bositif ar gyfer Covid-19
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 04 Rhagfyr 2020
Mae ysgol gynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cau dros dro ar ôl i aelod o staff brofi'n bositif ar gyfer Covid-19.
Mae Ysgol Gynradd Croesty ym Mhencoed wedi cau heddiw a bydd ar gau am y rhan gyntaf o wythnos nesaf o leiaf, oherwydd bod nifer o staff yn gorfod hunanynysu.
Yn anffodus, gan fod nifer o staff yn hunanynysu, mae'n golygu nad oes digon o aelodau staff i gadw'r ysgol ar agor.
Mae'r ysgol wedi hysbysu rhieni a gofalwyr am y sefyllfa, ac mae athrawon yr ysgol wedi gosod gwaith ar gyfer y plant i'w gwblhau'n ddigidol o gartref.
Bydd yr ysgol yn ailagor cyn gynted â phosib.
Dywedodd Charles Smith, aelod cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros addysg