Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgol Gynradd y Pîl wedi llwyddo yn yr arolwg Estyn diweddar

Yn ôl arolygwyr Estyn, mae dysgwyr Ysgol Gynradd y Pîl yn cael eu cefnogi gan staff addysgu ac yn gwneud cynnydd nodedig.

Ymwelodd Estyn â’r ysgol gynradd ym mis Gorffennaf 2022, yn dilyn eithriad dwy flynedd rhag arolygiadau Estyn mewn ysgolion ledled Cymru oherwydd y pandemig.

Yn ystod y ddwy flynedd o seibiant, datblygodd Estyn ei weithdrefnau arolygu i gynorthwyo’r adnewyddu a’r diwygio addysg yng Nghymru.

Mae adroddiadau arolygu newydd yn amlygu pa mor dda mae darparwyr addysg yn cynorthwyo plentyn i ddysgu, yn hytrach na defnyddio graddau cyfansymiol fel o’r blaen.

Mae fformat adrodd presennol Estyn yn ystyried y categorïau canlynol i farnu ysgol:

  • Dim camau dilynol
  • Adolygiad Estyn
  • Angen gwelliant sylweddol
  • Angen mesurau arbennig

Yn ôl arolygwyr Estyn, mae Ysgol Gynradd y Pîl yn gwneud cynnydd digonol ac nid oes angen camau dilynol yn yr ysgol.

Mae argymhellion Estyn ar gyfer yr ysgol yn cynnwys gwella cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau creadigol yn gynyddol a mireinio'r addysg er mwyn galluogi disgyblion i fod yn fwy annibynnol o ran sut maent yn dysgu, a beth maent yn ei ddysgu.

Mae’r awdurdod lleol, ochr yn ochr â Chonsortiwm Canolbarth y De, wedi cefnogi’r ysgol i greu cynllun gweithredu i amlygu sut i fynd i'r afael â’r argymhellion.

Mae hwn yn ganlyniad gwych ar gyfer yr ysgol! Rydym mor falch o’r hyn y mae'r staff addysgu a’r dysgwyr wedi’i gyflawni gyda’i gilydd.

Rwyf eisiau talu teyrnged i’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan athrawon, disgyblion, llywodraethwyr, rheini a gofalwyr - sydd oll yn gwneud yr ysgol hon yn llwyddiant.

Ar ôl sawl blwyddyn heriol, mae hyn yn gydnabyddiaeth wych o ymdrechion pawb yn yr ysgol a’i hymrwymiad i ddysgu. Da iawn, Ysgol Gynradd y Pîl!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y