Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgol Gynradd Cefn Cribwr yn cael dosbarthiadau newydd

Mae dosbarthiadau newydd ar gyfer plant gydag anghenion dysgu ychwanegol wedi cael eu hadeiladu yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr, yn ogystal ag ardal chwarae meddal allanol newydd sbon.

Cafodd y prosiect ei gwblhau fesul cam, er mwyn hwyluso'r heriau a godwyd yn sgil pandemig y coronafeirws, ac roedd y gwaith yn cynnwys dymchwel nifer o strwythurau a oedd eisoes ar safle'r ysgol, yn cynnwys hen ddosbarth dwbl anaddas.

Yn ogystal â'r dosbarthiadau newydd, mae'r prosiect wedi darparu cyfleusterau newydd pellach megis toiledau, ardaloedd storio ac ardaloedd ymyrraeth ddiogel.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i ddarparu'r amgylcheddau dysgu gorau bosib i blant o hyd, a bydd plant lleol yn elwa o'r dosbarthiadau, yr ardal chwarae a'r cyfleusterau ychwanegol newydd am ganrifoedd i ddod.

Mae'r gwaith hwn yn cynrychioli buddsoddiad gwerth mwy na £500,000, a hoffwn ddiolch i'r ysgol a'r gymuned leol am y rôl sylweddol maent wedi ei chwarae o ran helpu i ddarparu'r cyfleusterau newydd hyn.

Dywedodd Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Mae'r dosbarthiadau, yr ardal chwarae a'r cyfleusterau ychwanegol newydd yn barod i groesawu disgyblion yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr.

Chwilio A i Y