Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgol Gynradd Bracla yn bwriadu arbed arian drwy leihau ei hôl-troed carbon

Mae Ysgol Gynradd Bracla ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu lleihau ei biliau ynni mewn modd cynaliadwy ar ôl gosod paneli solar fis Ionawr eleni.

Mae’r paneli solar newydd wedi’u cynllunio i gynhyrchu trydan adnewyddadwy, carbon isel, sy’n cyflenwi ynni i’r ysgol ac yn arbed oddeutu £2,800 o gostau'r flwyddyn.

Gyda hyd oes o 20 i 25 mlynedd, y gobaith yw y bydd y paneli solar yn parhau i gynnig arbedion i’r ysgol am flynyddoedd i ddod. Mae'r ysgol hefyd yn gymwys i hawlio am unrhyw ynni dros ben sy’n cael ei allbynnu i'r grid cenedlaethol, a fydd hefyd yn cyfrannu at yr arbedion.

Mae’r gosodiad newydd yn un enghraifft o sawl addasiad ystyrlon o’r amgylchedd sydd i’w gweld yn yr ysgol, sydd wedi ymrwymo i wella'r amgylchedd.

Dywedodd y Pennaeth, Kathryn John: “Rydym wedi bod yn rhan o'r fenter Eco-Ysgolion ers ugain mlynedd ac rydym ar fin adnewyddu ein baner werdd Platinwm am y pumed tro.

Mae eco-ymwybyddiaeth wedi’i hymgorffori ym mhob agwedd ar ddysgu a phrofiad, ac mae’n rhan annatod o’n cwricwlwm yma yn Ysgol Gynradd Bracla.

Mae mesurau ecogyfeillgar eraill yn cynnwys dull ysgol gyfan o ailgylchu papur, cardfwrdd, plastig (gan gynnwys poteli llaeth); tyfu llysiau y mae’r plant yn eu defnyddio i wneud bwyd yn y dosbarth, Ysgol arian 'Bike It' Sustrans (hyrwyddo teithio cynaliadwy drwy annog plant i deithio i’r ysgol ar feic/sgwter, gyda rheseli beiciau wedi’u darparu), cynllun ‘Bracla: Ei Garu, a'i Gadw'n Lân’ Cadwch Gymru'n Daclus, Maint Cymru, a mentrau Earth in Danger.

Ychwanegodd Mrs John: “Fel rhan o’r cynllun, rydym hefyd wedi cyfnewid 70 y cant o oleuadau’r ysgol am oleuadau LED sy’n fwy effeithlon o ran ynni, y mae disgwyl iddynt arbed tua £5,700 y flwyddyn. Yn ogystal â hynny, byddant yn arbed costau cynnal a chadw, gan fod goleuadau LED yn para tua 50,000 awr neu hyd at 15 i 20 mlynedd.”

Mae'n wych gweld bod disgyblion ac athrawon Ysgol Gynradd Bracla wedi ymrwymo cymaint i'r rhaglen Eco-Ysgolion.

Mae wedi bod yn brofiad arbennig cwrdd ag eco-bwyllgor yr ysgol a chael gweld y sawl addasiad ecogyfeillgar sydd wedi’u gwneud, gan gynnwys y dosbarth awyr agored, ‘Rainbow Lodge’; y pwll llyffantod, cuddfan adar, coed ffrwythau ac ardaloedd i dyfu eu llysiau eu hunain yn yr ardd.

Rydym yn falch iawn o'n holl ysgolion yn profi eu rhinweddau gwyrdd yn barhaus ac yn dangos ymroddiad o'r fath tuag at ddatblygiad cynaliadwy.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David
Arweinydd y Cyngor, Huw David gydag Aelodau’r Cabinet, y Cynghorydd John Spanswick a’r Cynghorydd Charles Smith gydag eco-bwyllgor yr ysgol.

Chwilio A i Y