Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Yr ymdrech tîm arbennig gan athrawon i baratoi deunyddiau dysgu ar-lein ar gyfer dros 13,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Ychydig dros dri mis yn ôl, daeth miloedd o ddisgyblion ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wyneb yn wyneb â byd cwbl newydd wrth i ddysgu ar-lein gymryd lle'r diwrnod ysgol traddodiadol i lawer ohonynt.

Gan ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau ac adnoddau ar-lein, maent wedi bod yn cymryd rhan ac yn dysgu drwy ddulliau arloesol a chreadigol a luniwyd gan eu hathrawon, sydd wedi ceisio, cymaint â phosibl, gadw at y prif feysydd dysgu y byddent wedi'u cwmpasu yn yr ysgol.

Gan gofio'r penwythnos cyntaf hwnnw ym mis Mawrth y diwrnod yn dilyn cau'r ysgolion, dywedodd dirprwy bennaeth Ysgol Gynradd Coety, Sue Davies, sydd wedi bod yn arwain tîm ar-lein yr ysgol, ei bod wedi llunio cynllun ar sut i sicrhau bod athrawon yn gallu parhau i weithio fel tîm fel y gallent ddarparu'r profiad gorau posibl i bawb dan sylw. Roedd y cynllun yn ymwneud â defnyddio cryfderau pobl i uwchsgilio eraill yn ogystal â sefydlu gweithgorau i barhau i ddatblygu'r ysgol. 

Dywedodd: “Roedd llawer o'n staff yn mynd i fod yn gweithio yn yr hybiau gofal plant brys felly roedd angen i ni benderfynu ar y ffordd orau o'u cefnogi a sicrhau nad oeddent yn ceisio cydbwyso trefniadau dysgu gartref a'r hwb ar yr un pryd yn ystod y cyfnod cychwynnol. Roedd cyfathrebu yn allweddol ac mae gwaith tîm wedi bod yn hanfodol i sicrhau bod y trefniadau dysgu gartref yn mynd rhagddynt yn ddidrafferth.

"Rydym wedi ceisio cadw at bynciau tebyg y byddem wedi'u gwneud yn yr ysgol – gan addasu adnoddau i'r rhai y gallai fod gan y plant gartref. Roeddem am ddefnyddio deunyddiau a oedd eisoes yn gyfarwydd i'r plant lle bynnag y bo'n bosibl.

"Mae amgylchiadau pawb yn wahanol gartref – rydym yn ymwybodol iawn fod rhieni wedi bod yn gwneud eu gorau glas. Mae'r disgyblion wedi bod yn wych yn postio amrywiaeth eang o waith dysgu ac mae'r rhieni wedi bod mor gefnogol a hyblyg i'r newidiadau rydym wedi gorfod eu gwneud.

"Rydym wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw rieni sydd wedi gofyn am gymorth ac wedi creu e-bost ymholiadau technegol i sicrhau ein bod yn gallu eu helpu a'u cefnogi yn y maes hwn. Deallwn ei bod wedi bod yn gyfnod hynod anodd."

Mae'r ysgol wedi bod yn defnyddio'r platfform ar-lein Seesaw gyda deunyddiau dysgu ychwanegol ar gael ar gyfer plant sydd eisiau astudio mwy. Maent hefyd wedi defnyddio dolenni fel Joe Wicks, Oriel y Tate a Gŵyl y Gelli i gefnogi'r dysgu. Mae'r platfform wedi galluogi athrawon i lanlwytho gwaith a darparu rhywfaint o gyfathrebu rhwng y cartref a'r ysgol.

Dywedodd Mrs Davies: "Mae gennym adolygiadau parhaus. Byddwn yn newid y platfform ar-lein cyn hir i alluogi dull mwy cyfunol o ddysgu a chyfathrebu. Bydd y plant sy'n dod i mewn cyn gwyliau'r haf yn cael eu cyflwyno i'r system newydd hon. Roeddem am sicrhau bod y disgyblion wedi profi'r platfform hwn yn yr ysgol cyn mis Medi."

Yn ogystal ag arwain y tîm dysgu ac addysgu ar-lein, mae Mrs Davies wedi bod yn cyd-addysgu disgyblion Blwyddyn 6. Mae disgyblion wedi bod yn astudio ystod o sgiliau mathemateg, gwyddoniaeth a llythrennedd, yn amrywio o drin data ac ystadegau i siapiau rheolaidd ac afreolaidd, ac ysgrifennu stori ddirgel.

Dywedodd Mrs Davies: "Yn amlwg, ni fydd y rhai sy'n pontio yn gallu ymweld â'u hysgol newydd fel y byddent yn ei wneud fel arfer. Rydym wedi bod yn cysylltu â'r holl ysgolion uwchradd i weld sut y gallwn symud ymlaen. Rydym hefyd yn gobeithio dathlu eu hamser yn Ysgol Coety yn y ffordd orau a allwn cyn diwedd y tymor."

Mae plant yn Ysgol Gynradd Trelales wedi bod yn defnyddio'r platfform ar-lein ClassDojo gyda'r plant, ar ôl ei ddefnyddio'n ddyddiol yn y dosbarth cyn y cyfyngiadau symud.

Dywedodd Richard Perkins, athro Blwyddyn 2 yn yr ysgol: "Mae'r platfform wedi fy ngalluogi i lanlwytho tasgau y gall y plant gael mynediad atynt drwy eu rhieni. Mae pob wythnos wedi cael ei strwythuro o amgylch pwnc bach yn amrywio o drychfilod a môr-ladron i'r Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.

"Mae'r holl waith mathemateg a llythrennedd wedi cael ei ddatblygu gan ddefnyddio'r fframwaith sgiliau gyda'r pwnc bach, gan ei wneud yn bwrpasol ac yn ddiddorol fel bod y plant yn gallu gweld y rheswm dros gwblhau'r gweithgareddau."

Ochr yn ochr â'r pwnc bach bob wythnos, gosodir cyfres o heriau ymarferol ar gyfer y plant, yn amrywio o ymarfer eu tablau i ddarllen a gweithgareddau crefft i heriau bywyd go iawn fel clymu eu careiau a pharatoi pryd bwyd, gyda'r nod o helpu i annog annibyniaeth.

Mae pwnc diweddar wedi canolbwyntio ar lesiant gan ddefnyddio'r llyfr The Day the Crayons Quit fel ysgogiad i'r gwaith dros yr wythnosau nesaf, sy'n edrych ar deimladau, empathi a llesiant.

Dywedodd Mr Perkins: Roedd y newid i ddysgu ar-lein o fod yn yr ysgol yn eithaf sylweddol – gwnaethom adael ysgol ar y dydd Gwener ac erbyn y dydd Llun daeth y plant wyneb yn wyneb â byd cwbl newydd o ddysgu ar-lein.

“Mae'r ymatebion i'r dysgu ar-lein wedi bod yn anhygoel gydag o leiaf 30 darn o waith yn cael eu dychwelyd bob dydd, a mwy na 100 ar rai diwrnodau, gan fy nosbarth i.

“Nid yw hyn wedi newid drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud ac mae'r gwaith yn dal i gyrraedd yn ddyddiol. Mae rhieni wedi bod yn hynod gefnogol o'r platfform a'r ffordd yr wyf wedi gorfod newid y drefn arferol."

Dywedodd Ruth Davies-McHugh, athrawes Blwyddyn 5 yn Ysgol Cynwyd Sant, mai un o'r heriau ychwanegol i athrawon mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yw'r prinder gweithgareddau ac adnoddau yn Gymraeg.

Dywedodd: "Rydym wedi bod yn creu ein hadnoddau ein hunain a chyfieithu gweithgareddau ar gyfer y plant. Mae rhai athrawon wedi bod yn recordio eu hunain yn darllen llyfrau i'r plant er mwyn iddynt glywed Cymraeg – mae llawer o blant yn dod o deuluoedd di-Gymraeg felly nid ydynt wedi bod yn clywed yr iaith o gwbl."

Mae'r ysgol wedi bod yn defnyddio platfformau ar-lein Google Classroom, Hwb a Seesaw, gan greu dewislen ar-lein bob pythefnos ar y chwe Maes Dysgu a Phrofiad, sy'n cynnwys Llythrennedd, Mathemateg, ac Iechyd a Lles.

Dywedodd Mrs Davies-McHugh: "Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar roi pob pwnc mewn cyd-destun bob dydd – er enghraifft, o ran Mathemateg rydym wedi bod yn edrych ar y mesuriad dau fetr – beth fyddai'n cyfateb i ddau fetr, beth fydda'n fwy ac yn llai. Roeddem wedi gwneud gwaith ar Roald Dahl yn flaenorol – byddai ef wedi bod oddeutu dau fetr, ac Alun Wyn Jones. Pan fyddant yn dychwelyd i'r ysgol, byddant yn gwybod beth yw dau fetr.

“Mae'r pynciau wedi cynnwys Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, cefndir a hanes y GIG ac Aneurin Bevan, a'r coronafeirws – gan edrych ar yr hyn ydyw a chynnal yr arbrawf bach sy'n cynnwys rhoi pupur mewn dŵr, sy'n symud i ffwrdd pan fydd gennych sebon neu hylif diheintio ar eich dwylo, gan ddangos pa mor bwysig yw hi i olchi eich dwylo.

“Rydym wedi annog plant i gymryd rhan yn y dosbarthiadau ymarfer corff ar-lein gyda Joe Wicks a safle mathemateg Carol Vorderman, BBC Bitesize a Moneysense Natwest, sy'n ymwneud â llythrennedd ariannol.

“Roedd y plant yn gyfarwydd â defnyddio platfformau ar-lein amrywiol yn yr ysgol felly mae wedi bod yn haws i'w defnyddio gartref. Gwnaethom hefyd lunio canllawiau 'sut i fynd ati' gyda fideos byr a sleidiau i rieni.

"Mae rhai plant wir yn ffynnu yn gweithio gartref. I'r plant hynny ar y sbectrwm awtistig neu sydd â dyslecsia, mae'r feddalwedd ar-lein yn wych oherwydd gallant bwyso botwm a siarad i mewn iddi – nid oes angen iddynt deipio eu hatebion.

"Rydym wedi gweld pob math o greadigrwydd gan y plant."

Mae ein hathrawon wedi bod yn gwneud gwaith anhygoel yn ystod y cyfnod heriol hwn o gau ysgolion nas gwelwyd erioed o'r blaen.

Maent wedi creu cyfoeth o adnoddau ar-lein ac wedi defnyddio ffyrdd arloesol o sicrhau bod y dysgu'n parhau i'n plant ysgol a'i wneud yn hygyrch i rieni ar yr un pryd.

Mae wedi bod yn ymdrech tîm arbennig gan yr holl staff, y mae rhai ohonynt wedi bod yn ceisio cydbwyso gofal plant a goruchwylio trefniadau dysgu gartref eu plant eu hunain ar yr un pryd.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David

Chwilio A i Y