Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymweliadau dan do mewn cartrefi gofal yn ail gychwyn

Mae cartrefi gofal preswyl ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gwneud trefniadau i gefnogi ymweliadau dan do i deuluoedd, yn dilyn y canllaw diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.

Cyfyngwyd ymweliadau i gartrefi gofal gan y llywodraeth ym mis Mawrth, fel ymateb i bandemig coronafeirws, gan helpu i ddiogelu pobl sy'n byw yn y cartrefi, staff ac ymwelwyr.

Gan fod nifer o gartrefi yn cael eu rhedeg gan ddarparwyr gofal annibynnol, mae pob cartref wedi'i sefydlu'n wahanol, ac mae'n debyg y bydd trefniadau'n wahanol ar draws y cartrefi gofal, felly rydym yn annog teuluoedd a ffrindiau i siarad â'r cartrefi'n uniongyrchol am wybodaeth ar sut y rheolir ymweliadau, ac os bydd hynny'n digwydd.

Rydym yn croesawu'r canllaw diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch ymweliadau dan do, ac yn cefnogi darparwyr gofal annibynnol a'n gwasanaethau llety preswyl ein hunain wrth iddynt wneud trefniadau i hwyluso'r canllawiau mewn modd diogel. Hoffwn ddiolch i'r teuluoedd am eu cefnogaeth a dealltwriaeth yn ystod y pum mis diwethaf - mae wedi bod yn gyfnod heriol i lawer o bobl. Rydym yn cydnabod ei fod yn bwysig bod pobl yn cael eu cefnogi i gynnal eu cysylltiadau gyda theuluoedd a ffrindiau.

Drwy gydol y pandemig, mae staff mewn cartrefi gofal wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod preswylwyr yn ddiogel ac iach, ac maen nhw wedi bod yn cefnogi pobl i gadw cysylltiad gyda'u hanwyliaid mewn amrywiaeth o ffyrdd - galwadau ffôn, galwadau fideo, cardiau, lluniau ac e-byst.

Dywedodd aelod cabinet y Cyngor Bwrdeistref Sirol dros Wasanaethau Cymdeithasol, Phil White

Ers mis Gorffennaf, yn dilyn canllaw Llywodraeth Cymru, mae ymweliadau awyr agored wedi bod yn cael eu cynnal mewn cartrefi gofal, er mwyn i deuluoedd a ffrindiau weld y naill a'r llall wyneb yn wyneb.

Chwilio A i Y