Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgyrch haf i gefnogi manwerthwyr ar y stryd fawr ac mae ‘siopa’n lleol’ wedi lansio

Mae ymgyrch flynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ‘dreulio'r haf yng nghanol eich tref’ wedi lansio’r wythnos hon.

Mae’r ymgyrch wedi’i hanelu at amlygu’r rhesymau cadarnhaol niferus i bobl ‘siopa’n lleol’ a chefnogi masnachwyr lleol, mae’r ymgyrch yn cynnwys canol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl.

Mae canol trefi yn cynnwys amrywiaeth eang o opsiynau siopa, gan gynnwys siopau a busnesau annibynnol, marchnadoedd dan do a marchnadoedd stryd, a brandiau stryd fawr adnabyddus gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal drwy gydol misoedd yr haf.

Mae baneri amryliw hefyd wedi’u gosod ar draws canol trefi i greu profiad cadarnhaol a chofiadwy i ymwelwyr, pob un â thema o liw amrywiol i greu hunaniaeth unigryw i bob ardal.

Bydd fideo sy’n dangos yr amrywiaeth o fwydydd rhyngwladol sydd ar gael mewn sawl bwyty ‘cyrchfan’ annibynnol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn cael ei ryddhau fel rhan o’r ymgyrch.

Er mwyn annog pobl i ‘siopa’n lleol’ a chefnogi busnesau lleol, mae’r cyngor wedi ymestyn ei gynnig parcio am ddim mewn dau faes parcio a reolir gan y cyngor yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, lle gall ymwelwyr barhau i barcio am y tair awr gyntaf ym maes parcio aml-lawr y Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr rhwng hanner dydd a 3pm yn John Street ym Mhorthcawl.


Gall ymwelwyr â chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl 6pm barcio yn y maes parcio awyr agored mawr yn Stryd Bracla (tu ôl i Wilkinsons) a meysydd parcio mewn lleoliadau megis Heol Tremains, Heol Tondu a Chanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae meysydd parcio sy'n cael eu cynnal gan y cyngor yn Stryd John a Hillsboro Place yn rhad ac am ddim i'w defnyddio ar ôl 6pm, ac mae parcio rhad ac am ddim ar gael ar hyd glan y môr.

Mae parcio rhad ac am ddim hefyd ar gael ym maes parcio aml-lawr Ffordd Llynfi ym Maesteg.

Er mwyn helpu i hyrwyddo busnesau lleol ac annibynnol, mae EPM Creative Events wedi cynhyrchu tri ap y gall pobl eu lawrlwytho i gyrchu cynigion siopa - We Love Bridgend / Porthcawl /Maesteg. Gallwch lawrlwytho'r apiau o Apple App Store neu Google Play drwy chwilio am BRIDGEND / PORTHCAWL / MAESTEG.

Mae Wi-Fi am ddim bellach ar gael yng nghanol trefi Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda'r nod o gynyddu cysylltedd ymysg trigolion, busnesau ac ymwelwyr.

Mae'r gwasanaeth am ddim ar gael yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Maesteg a Phencoed. Er mwyn cysylltu, bydd angen i unigolion chwlio am "BCBC free Wi-Fi" yn eu gosodiadau rhwydwaith Wi-Fi, ac yna bydd angen iddynt nodi eu cyfeiriad e-bost i ddechrau. 

Gallwch hefyd ddysgu mwy am y digwyddiadau a'r gorymdeithiau diweddaraf sy'n cael eu cynnal ledled y fwrdeistref sirol ar wefan y cyngor.

Mae gwybodaeth am barcio canol y dref hefyd ar gael ar wefan y cyngor

Mae canol ein trefi’n cynnig dewis eang ac amrywiol o fanwerthwyr, a thrwy ehangu ein menter parcio am ddim, rydym wedi ei gwneud hi’n haws i bobl ‘siopa’n lleol’ a chefnogi masnachwyr bach, annibynnol. “Trwy annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol, gallwn sicrhau bod canol ein trefi’n parhau i ffynnu. “Mae digwyddiadau fel ‘Picnic yn y Parc’ ym Mharc Griffin, Porthcawl a’r ‘Parti Stryd y Coroni’ yn Sgwâr y Farchnad, Maesteg, yn cael eu trefnu gan gyngor y dref, ynghyd â marchnadoedd stryd eraill a digwyddiadau a gynhelir gan bob un o’r tri chyngor tref drwy gydol yr haf, sy’n atgyfnerthu ein hysbryd cymunedol, ac yn dangos pa mor werthfawr ydyw i ni ddod ynghyd a chefnogi ein masnachwyr lleol, annibynnol.

y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio

Chwilio A i Y