Ymgynghoriad i helpu i lywio polisi gwarcheidwaid arbennig
Poster information
Posted on: Dydd Iau 25 Chwefror 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio ymgynghoriad i helpu i lywio datblygiad Polisi Ariannol Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.
Nid yw rhai plant yn gallu byw gyda’u rhieni biolegol, a gallent fyw gyda gwarcheidwad arbennig am gyfnod o amser. Gorchymyn llys yw Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig (SGO) sy’n penodi person neu bobl benodol i fod yn warcheidwad i’r plentyn nes bydd yn troi’n 18 oed.
Ar hyn o bryd, mae 125 o blant yn byw gyda gwarcheidwaid arbennig ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae llawer o resymau sy’n arwain at blant yn methu byw gyda’u rhieni, ac mae SGOau yn eu galluogi i setlo mewn cartref diogel a pharhaus. Mae’r cyngor yn awyddus i gynyddu nifer y gwarcheidwaid arbennig i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl i blant a phobl ifanc.
Yn ôl y gyfraith, mae angen i’r cyngor wneud trefniadau ar gyfer darparu cymorth i warcheidwaid arbennig, gan gynnwys cymorth ariannol lle bo angen i sicrhau bod modd trefnu SGO.
Byddem yn annog preswylwyr, yn enwedig y rheiny sydd â phrofiad o warcheidiaeth arbennig, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i’n helpu i lywio ein polisi ariannol i’r dyfodol. Mae’r arolwg yn gofyn a ydych chi’n meddwl bod yr wybodaeth yn y polisi yn glir, a oes unrhyw fanylion ar goll, ac am unrhyw sylwadau eraill allai fod gennych.
Cynghorydd Nicole Burnett, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dolenni at y polisi ac arolwg yr ymgynghoriad, ewch i wefan y cyngor. Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 9 Mai 2021.