Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad cyhoeddus croesfan Pencoed i ddod i ben 31 Ionawr

Mae trigolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hatgoffa bod amser o hyd i ddweud eu dweud ar y cynlluniau a allai drawsnewid canol Pencoed.

Wedi’i lansio 8 Tachwedd 2021, mae’r ymgynghoriad yn gofyn i bobl am eu barn ar y cynlluniau uchelgeisiol i fynd i’r afael â phroblemau tagfeydd traffig hirdymor ym Mhencoed, sydd wedi atal datblygiad newydd a buddsoddiad economaidd rhag digwydd. 

Os cânt eu cymeradwyo, bydd y cynlluniau gwerth £17m yn galluogi cau croesfan reilffordd Pencoed yn y pendraw, drwy ailadeiladu pont ffordd Penprysg i fod yn addas ar gyfer llif traffig ddwy ffordd, a chreu pont teithio llesol newydd sbon dros y rheilffordd ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

Bydd y cynlluniau hefyd yn cynnig tir datblygu posibl i’r gorllewin o'r groesfan bresennol ac yn galluogi buddsoddiad a chyfleusterau newydd.

Hoffaf ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses ymgynghoriad hyd yn hyn. Nod y cynigion hyn yw lleddfu problemau tagfeydd y dref, gwella diogelwch a chynnig gwelliannau newydd i drigolion a busnesau drwy wahanu’r ffordd oddi wrth y rheilffordd.

Maent wedi’u datblygu’n ofalus mewn partneriaeth drwy grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y gymuned leol, Chris Elmore AS, Huw Irranca-Davies AS, Llywodraeth Cymru, Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Tref Pencoed.

Er bod y cynlluniau’n cynrychioli un o’r buddsoddiadau mwyaf erioed i seilwaith trafnidiaeth lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, byddai unrhyw waith yn cael ei drefnu’n ofalus er mwyn lleihau ar y tarfu dros dro. Petai’n cael ei gymeradwyo, byddai’n newid byd llwyr ar gyfer Pencoed.

Cynghorydd Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Ychwanegodd Bill Kelly, Cyfarwyddwr Llwybr ar gyfer Network Rail Cymru a’r Gororau: “Rydym wedi bod yn gweithio’n agos â chynrychiolwyr etholedig lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ddyfodol Croesfan Pencoed, ac yn edrych ymlaen at glywed yr adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus.”

Bydd y cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben 31 Ionawr 2022, a gallwch ddysgu mwy, cael atebion i gwestiynau cyffredin a chwblhau arolwg yr ymgynghoriad ar-lein ar wefan y cyngor.

Gallwch hefyd wneud cais am fformat amgen drwy e-bostio consultation@bridgend.gov.uk, ffonio 01656 643664 neu ysgrifennu at Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Chwilio A i Y