Ymestyn ymgynghoriad Gorchymyn Prynu Gorfodol y Cyngor
Poster information
Posted on: Dydd Iau 28 Hydref 2021
Fel rhan o gam nesaf y cynlluniau adfywio parhaus ym Mhorthcawl, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhannu cyfres o orchmynion prynu gorfodol (CPO).
Mae’r CPO yn dilyn ymdrechion a wnaed yn gynharach yn y flwyddyn i adnabod a chadarnhau manylion perchnogion nifer o barseli bach o dir wedi’u lleoli ym Mae Tywodlyd a Thraeth Coney, a’r ardal gyfagos.
Er nad yw’r gorchmynion gorfodol yn effeithio ar unrhyw gyfeiriadau preswyl yn yr ardal, mae’r cyngor wedi ysgrifennu at berchnogion eiddo sydd o amgylch safleoedd y CPO i sicrhau bod perchnogion tai yn ymwybodol o’r sefyllfa, ac yn cael cyfle i’w hadolygu a rhannu eu barn.
Mae’r cyngor hefyd wedi cysylltu â thirfeddianwyr perthnasol a gafodd eu hadnabod yn ystod cam blaenorol y broses.
Yn y cyfamser, mae rhagor o fanylion ar leoliadau’r tiroedd mae’r cyngor yn eu prynu ar gael ar-lein ar wefan y cyngor a hefyd ar ffurf copi caled yn Llyfrgell Porthcawl yn Church Place, Porthcawl (CF36 3AG).
Yn dilyn dechrau’r cyfnod ymgynghori ar 21 Hydref, mae wedi dod yn amlwg nad yw cyfeiriad e-bost Yr Arolygiaeth Gynllunio a ddarparwyd yn wreiddiol ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau yn cael ei ddefnyddio mwyach, a bod cyfeiriad e-bost Penderfyniadau Cynllunio a’r Amgylchedd Cymru newydd yn cymryd ei le.
O ganlyniad i’r newid yn y cyfeiriad e-bost ar ddogfennau'r ymgynghoriad, mae’r cyfnod gwrthwynebu statudol wedi’i ymestyn 21 diwrnod ychwanegol o ddyddiad cyhoeddi’r datganiad i’r wasg diwygiedig, sydd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Iau 4 Tachwedd. Yn y cyfamser, bydd rhybuddion safle diwygiedig yn cael eu cyhoeddi gyda’r wybodaeth newydd, a llythyrau diwygiedig yn cael eu hanfon at bawb a dderbyniodd y llythyr cyntaf.
Y cyfeiriad e-bost newydd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwneud sylw ar y gorchmynion prynu gorfodol, neu wneud gwrthwynebiad, yw PEDW.Casework@gov.wales. Mae modd hefyd i bobl ysgrifennu at Penderfyniadau Cynllunio a’r Amgylchedd Cymru, Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Y dyddiad cau i wneud hyn yw 26 Tachwedd 2021, a dylech nodi teitl y gorchymyn a sail y gwrthwynebiad yn ogystal â chyfeiriad y gwrthwynebwr a diddordeb yn y tir.
Yn dilyn gwaith i adnabod tirfeddianwyr nifer o blotiau bach o dir, mae’r cam nesaf hwn yn cynnwys cyflwyno gorchmynion prynu gorfodol er mwyn diogelu darpariaeth cam nesaf ein cynlluniau adfywio. Mae hwn yn gyfle i unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth ynghylch y rhannau o dir fydd yn cael eu heffeithio, a’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud gyda’r gorchmynion gorfodol, i ddysgu mwy.
Hoffem osod y sylfaen ar gyfer sefydlu cyfleusterau masnach, preswyl, hamdden ac ardaloedd agored o fewn ardaloedd Bae Tywodlyd a Thraeth Coney, yn ogystal â chreu ysgol newydd, gwella diogelwch ar yr arfordir, cyflwyno mesurau ecolegol newydd i ddiogelu’r systemau twyni lleol a mwy.
Oherwydd bod cyfeiriad e-bost newydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfnod gwrthwynebu, mae gan y cyhoedd 21 diwrnod ychwanegol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gan sicrhau bod cyfle i ymgysylltu’n llawn â’r broses. Yn dilyn y broses gyfreithiol hon, bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar wahân ar yr uwchgynllun creu lleoedd ar gyfer ardal gyfan glan y môr, felly cadwch lygad allan am fanylion am hyn a fydd yn cael eu cyhoeddi'n fuan.
Dywedodd Aelod Cabinet y cyngor dros Addysg ac Adfywio, Charles Smith
- Gellir gweld y copïau caled yn Llyfrgell Porthcawl rhwng 9.15am-6pm dydd Llun, 9.15am-5pm dydd Mawrth, Iau, Gwener a Sadwrn, a 9.15am-1pm ar ddydd Mercher. Noder, mae’r llyfrgell ar gau dros awr ginio rhwng 1pm-2pm, ac mae wedi cau ar ddydd Sul.