Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymestyn y cyfyngiadau clo yng Nghymru

Mae’r cyfyngiadau clo yng Nghymru wedi cael eu hymestyn am dair wythnos arall.

Wrth gyhoeddi y byddai’r mesurau Lefel Rhybudd 4, yn cael eu hymestyn dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod yn rhaid i breswylwyr barhau i aros gartref i achub bywydau.

Bydd y cyfyngiadau yn cael eu cryfhau mewn rhai meysydd allweddol i atal y straen newydd, hynod heintus o’r feirws rhag lledaenu yn y siopau a'r gweithleoedd sy'n parhau ar agor.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi oni bai bod yna ostyngiad sylweddol mewn achosion o goronafeirws cyn 29 Ionawr - sef dyddiad yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau - bydd myfyrwyr ysgol a choleg yn parhau i ddysgu ar-lein tan hanner tymor mis Chwefror.

Mae achosion o goronafeirws yn parhau i fod yn uchel iawn yng Nghymru gyda straen gwahanol newydd o'r feirws, sy'n lledaenu'n gyflym iawn yn cylchredeg. Ar hyn o bryd, Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd â’r gyfradd uchaf o brofion coronafeirws positif yng Nghymru gyda 33.7%.

Dywedodd Mark Drakeford: “Mae pandemig y coronafeirws wedi cyrraedd pwynt arwyddocaol. Mae nifer yr achosion yng Nghymru’n parhau i fod yn uchel iawn ac mae ein GIG o dan bwysau gwirioneddol a pharhaus.

"Mae'n rhaid i'r cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar a gyflwynwyd gennym cyn y Nadolig aros yn eu lle i'n cadw ni i gyd yn ddiogel. Er mwyn arafu lledaeniad y feirws, rhaid i bob un ohonom ni aros gartref i ddiogelu'r GIG ac achub bywydau.

"Mae hwn yn teimlo fel cyfnod tywyll ond mae'r brechlynnau Covid-19 newydd yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, gan roi llwybr i ni allan o'r pandemig hwn.

"Bydd angen ymdrech enfawr i frechu pawb ac, er bod diwedd y pandemig hwn yn y golwg, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dilyn y rheolau ac yn aros gartref. Rydym wedi gwneud cymaint o aberth gyda'n gilydd a rhaid i ni beidio â stopio nawr.”

O dan y cyfyngiadau clo Lefel Rhybudd Pedwar bydd busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, lleoliadau lletygarwch, adeiladau trwyddedig a chyfleusterau hamdden yn parhau ar gau.

Bydd y mesurau yn cael eu cryfhau i gynnwys cau pob ystafell arddangos. Byddant yn parhau i allu gweithredu trefniadau clicio a chasglu.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn adolygu a oes angen i archfarchnadoedd a manwerthwyr mawr roi mesurau ychwanegol ar waith i amddiffyn pobl yn y siop a beth arall y mae angen i gyflogwyr ei wneud i amddiffyn pobl yn y gweithle a chefnogi pobl i weithio gartref.

Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David: “Yn ystod y cyfnod clo hwn, atgoffir preswylwyr i aros gartref, gweithio gartref os gallwch chi, cadw pellter o 2m oddi wrth bobl eraill, gwisgo gorchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do a pheidio â chwrdd ag unrhyw un y tu allan i'ch cartref uniongyrchol neu swigen gefnogaeth.

“Po fwyaf y mae pobl yn cymysgu, y mwyaf y gall y straen newydd o Covid-19 ymledu - mae'n hynod drosglwyddadwy ac yn lledaenu'n gyflym iawn o berson i berson. Daliwch ati i aros gartref i gadw eich ffrindiau, eich teulu a’ch cymdogion yn ddiogel rhag y feirws angheuol hwn.”

Chwilio A i Y