Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymdrechion i wella ailgylchu ym Melin Wyllt

Mae gwelliannau ar y gweill yn ystâd Melin Wyllt ym Mhen-y-bont ar Ogwr er mwyn gwneud ailgylchu yn haws i drigolion.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar y cyd â’i bartner ailgylchu Kier a’r gymdeithas tai Cymoedd i’r Arfordir, wrthi’n gosod biniau ailgylchu ychwanegol yn ardal Tair-felin y datblygiad yr wythnos hon i gynyddu nifer y biniau o 7 i 11, a bydd hefyd yn creu mannau casglu pwrpasol newydd ar gyfer bagiau gwastraff a bagiau porffor.

Mae gwelliannau tebyg eisoes wedi cael effaith gadarnhaol yn ardal Glanffornwg   yr ystâd, a bydd mannau casglu ar gyfer trigolion Maes-y-felin a ThremGarth yn cael eu hadolygu yn ddiweddarach yr haf hwn.

Ers i ni gyflwyno ein trefniadau ailgylchu newydd y llynedd, rydym ni wedi bod yn monitro’r sefyllfa mewn ystadau â mannau casglu cymunol fel Melin Wyllt i weld pa welliannau sydd eu hangen i sicrhau bod y casgliadau yn digwydd yn esmwyth.

Fis Rhagfyr diwethaf, cafodd mannau casglu Glanffornwg eu symud i’w gwneud yn fwy hygyrch ac yn haws eu defnyddio, ac aeth swyddogion addysg o ddrws i ddrws i ddarparu taflenni er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o ailgylchu.

Mae’r effaith wedi bod yn gadarnhaol hyd yma, â llai o adroddiadau am dipio anghyfreithlon yn yr ardal honno o’r ystâd, ond mae gennym ni rai problemau o hyd, felly, rydym ni’n gosod dwy orsaf ailgylchu ychwanegol yn Glanffornwg y mis hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Is-lywydd y Cyngor:

“Erbyn diwedd yr haf, bydd y gwelliannau wedi eu gwneud ym mhob rhan o ystâd Melin Wyllt i’w gwneud yn haws i’r holl drigolion ailgylchu eu gwastraff cartref. Bydd ein swyddogion addysg hefyd yn treulio llawer o amser ar yr ystâd, yn siarad â thrigolion am fuddion ailgylchu ac esbonio beth y gellir ei ailgylchu a beth na ellir.”

Ewch i wefan Ailgylchu dros Pen-y-bont ar Ogwr i ddysgu mwy am ailgylchu

Chwilio A i Y