Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

'Ymdrech grŵp enfawr' yn cynorthwyo i ddod o hyd i lety i drigolion di-gartref

Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr wedi diolch i sefydliadau partner am gyflymder ac ansawdd eu hymateb i'r alwad frys i gynorthwyo'r awdurdod lleol ddod o hyd i lety arall i 39 o bobl ddi-gartref.

Fe gododd y broblem yn dilyn trafodaethau cytundebol ar ymestyn trefniadau sydd wedi bod ar waith gyda dau westy lleol ers dwy flynedd ac a sefydlwyd yn wreiddiol i sicrhau y gallai pobl ddi-gartref gael mynediad i lety diogel yn ystod y pandemig, yn chwalu.

O ganlyniad, roedd gan y cyngor lai na phum diwrnod i ddod o hyd i lety arall i 39 o unigolion.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol sydd hefyd yn gyfrifol am dai: "Er bod hyn yn fyr rybudd iawn, roedd ymateb enfawr i'n cais am gymorth, ac rwyf eisiau diolch i dîm Tai'r cyngor a phawb sydd wedi cyfrannu i'r ymdrech grŵp enfawr hwn.

"Mae hyn yn cynnwys ein partneriaid trydydd sector, Pobl a The Wallich, a gynorthwyodd bobl yn uniongyrchol wrth ddarparu unedau llety o fewn ein prosiectau tai, landlordiaid y sector preifat a ymatebodd mor gyflym i'n ceisiadau am lety, a'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig oedd yn deall y brys i brosesau'r enwebiadau am dai cymdeithasol.

"Rwyf eisiau diolch i'r trigolion eu hunain hefyd am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod beth oedd, heb os, yn gyfnod pryderus dros ben.

"Gweithiodd nifer o westai a gwely a brecwast ochr yn ochr â ni i ddarparu llety i bobl ddi-gartref a gweithwyr allweddol yn ystod yr argyfwng coronafeirws, ond mesur dros dro yn unig oedd hwn i fod - un o oedd â'r budd ychwanegol o ddarparu incwm gwarantedig i berchnogion a'u cynorthwyo rhag mynd i'r wal yn ystod y pandemig.

"Ein nod tymor hir erioed oedd canolbwyntio ar gynorthwyo'r di-gartref i ddod o hyd i gartref addas, ac mae'r cyngor a'i bartneriaid wedi cynorthwyo mwy na 5,000 o geisiadau gan y di-gartref ers dechrau'r pandemig."

Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn y broses o hysbysu'r 39 o drigolion ynghylch y trefniadau i gael mynediad i'w llety newydd.

Chwilio A i Y