Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

'Ymateb heb ei ail’ i ymgynghoriad y Cynllun Datblygu Lleol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi diolch i drigolion am gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar uwchgynllun a fydd, ar ôl iddo gael ei gadarnhau, yn pennu pa fathau o ddatblygiadau a fydd yn gallu digwydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rhwng nawr a 2033.

Ar hyn o bryd mae swyddogion y Cyngor yn dadansoddi dros 1,500 o ymatebion ac yn amcangyfrif, unwaith y bydd yr adroddiad adborth wedi'i lunio, y bydd yn fwy nag 800 tudalen o hyd.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad wyth wythnos ar y Cynllun Datblygu Lleol newydd drafft rhwng mis Mehefin a mis Awst ar ôl cael ei gymeradwyo gan gyfarfod o'r Cyngor llawn.

Er gwaethaf cymhlethdodau pandemig y coronafeirws, denodd yr ymateb mwyaf erioed o'i gymharu ag ymgynghoriadau blaenorol y CDLl.

Gan gynnwys yr holl bolisïau y bydd yr awdurdod yn eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol, mae'r CDLl yn nodi sut y gellir defnyddio tir ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a pha rannau o'r fwrdeistref sirol fydd yn cael eu cynnal fel man agored neu wedi'u dynodi at ddibenion preswyl, cyflogaeth, manwerthu, gwastraff, datblygu mwynau, cymunedol a thwristiaeth

Er y gallai cyfnodau ymgynghori blaenorol y CDLl ddibynnu ar 'sesiynau galw heibio' mewn llyfrgelloedd, canolfannau hamdden ac adeiladau cyhoeddus eraill, roedd y pandemig yn golygu na ellid dibynnu ar opsiynau o'r fath rhag ofn y bu'n rhaid ail-weithredu cyfyngiadau pe bai unrhyw gynnydd sylweddol mewn cyfraddau heintio. O ganlyniad, bu'n rhaid datblygu ffyrdd newydd o gynnal yr ymgynghoriad.

Cymeradwywyd y dull newydd hwn yn y Cyngor llawn a chytunodd â Llywodraeth Cymru, a oedd yn cydnabod yr angen i wneud mwy o ddefnydd o gyfarfodydd rhithwir, cyfryngau cymdeithasol, cyfathrebu digidol, offer ymgynghori ar y we, apwyntiadau un-i-un dros y ffôn, dosbarthu copïau caled, hysbysebu a hyrwyddo helaeth, a mwy.

Cytunodd Llywodraeth Cymru hefyd y gallai'r cyngor weithredu cyfnod ymgynghori estynedig o wyth wythnos yn hytrach na'r cyfnod statudol arferol o chwe wythnos.

Gan ddechrau gyda hysbysiad cyfreithiol ffurfiol a gyhoeddwyd yn y Glamorgan Gazette ar 3 Mehefin 2021, roedd pecyn o ddogfennau ymgynghori ar gael ar wefan y cyngor ynghyd ag arolwg electronig ar-lein. 

Darparwyd copïau printiedig o'r ymgynghoriad a'r arolwg mewn adeiladau sy'n wynebu'r cyhoedd megis llyfrgelloedd lleol, ac roeddent ar gael i'w gweld drwy apwyntiad yn y Swyddfeydd Dinesig. Roedd aelodau o'r cyhoedd yn gallu derbyn copïau caled o'r ymgynghoriad gartref, a hysbyswyd pob unigolyn a sefydliad a restrwyd ar gronfa ddata ymgynghori'r cyngor a'u gwahodd i gymryd rhan.

Comisiynwyd Cymorth Cynllunio Cymru i gynnal digwyddiadau ymgysylltu o bell ar gyfer cynghorau tref a chymuned ar draws y fwrdeistref sirol, ac anogwyd aelodau etholedig i hyrwyddo cyfranogiad yn eu wardiau lleol.

Roedd swyddogion cynllunio ar gael ar gyfer apwyntiadau ffôn un-i-un fel y gellid ateb ac egluro unrhyw ymholiadau neu bryderon, tra bod swyddogion hefyd yn defnyddio technoleg o bell i gyflwyno'r ymgynghoriad i weithgorau sefydledig megis Fforwm Cydlyniant Cymunedol a Chydraddoldeb Pen-y-bont ar Ogwr a'r Fforwm Ieuenctid.

Cafodd yr ymgynghoriad gyhoeddusrwydd a’i hyrwyddo’n helaeth drwy gyfres o 20 o ddatganiadau i'r cyfryngau a gyhoeddwyd ar adegau strategol drwy gydol yr wyth wythnos i gyfryngau print, darlledu a digidol. Roedd cyhoeddusrwydd arall yn cynnwys amryw o golofnau papur newydd a chylchgronau, cyhoeddiadau ac amserlen gynhwysfawr o negeseuon cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu y talwyd amdano ar draws llwyfannau fel Facebook, LinkedIn a Twitter.

Yn ogystal, dosbarthwyd posteri ymhlith yr holl gynghorau tref a chymuned i'w harddangos ar hysbysfyrddau cymunedol fel ffordd o ategu'r gweithgareddau ymgysylltu arfaethedig, tra bod swyddogion cynllunio hefyd wedi derbyn cannoedd o alwadau ffôn, llythyrau ac e-byst ychwanegol.

Mae hwn wedi bod yn ymgynghoriad arbennig o lwyddiannus, a hoffwn ddiolch i drigolion am gymryd rhan a helpu i lunio'r CDLl. Rwy'n credu ei bod yn arwyddocaol nodi bod y gyfradd ymateb wedi bod yn llawer uwch na chyfnod blaenorol y CDLl, a ddigwyddodd ymhell cyn i gyfyngiadau’r pandemig fod ar waith, felly hoffwn hefyd longyfarch swyddogion cynllunio'r cyngor am wneud hwn yn un o'r ymgynghoriadau cynllunio mwyaf llwyddiannus yr ydym wedi'i gynnal hyd yma.

Rwy'n falch bod y cyfnod ymgynghori estynedig y cytunwyd arno yn y Cyngor llawn ac a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru wedi cefnogi'r llwyddiant hwn, yn enwedig gan fod y gyfradd ymateb yn nodi'n glir bod unrhyw estyniad yn ddiangen bellach. Er bod yr adborth hwn yn cael ei ddadansoddi a'i gasglu mewn adroddiad ymgynghori, mae'n bwysig nodi nad dyma ddiwedd proses y CDLl, a bod angen llawer iawn o waith pellach cyn y gellir ei gwblhau. Bydd y camau nesaf yn gweld swyddogion yn parhau i adolygu tystiolaeth a gwneud gwaith technegol ychwanegol. Unwaith y byddwn yn fodlon bod gennym uwchgynllun datblygu sy'n diwallu holl anghenion y fwrdeistref sirol, bydd yn mynd gerbron y Cyngor llawn i gael cytundeb, yna ymlaen i arolygiaeth gynllunio Llywodraeth Cymru i graffu'n annibynnol arno.

Bydd angen cynnal ymchwiliad cynllunio i ystyried y cynllun ac unrhyw wrthwynebiadau y gellir eu gwneud yn ei erbyn, ac yna bydd angen iddo fynd yn ôl i'r Cyngor i'w gymeradwyo'n derfynol. Fodd bynnag, mae proses hir i'w chynnal cyn y gallwn gyrraedd y pwynt hwnnw. Os bydd angen newidiadau sylweddol a chyfnodau pellach o ymgynghori, rwy'n gobeithio y bydd pobl yn parhau i ddweud eu dweud, ac y byddant yn helpu i lunio'r cynllun terfynol y cytunir arno yn y pen draw.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd Stuart Baldwin

Chwilio A i Y