Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

‘Ymateb enfawr gan y cyhoedd’ yn helpu i lywio cynigion terfynol y gyllideb

Mae adborth gan gynnydd yn nifer y bobl a gymerodd ran yn ymgynghoriad blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y gyllideb wedi helpu i ddatblygu'r gyllideb derfynol arfaethedig ar gyfer 2019–20.

Cafwyd cynnydd o 44 y cant yn nifer yr arolygon a ddychwelwyd ac mae'r Dirprwy Arweinydd Hywel Williams wedi canmol ‘ymateb enfawr gan y cyhoedd’ i'r ymgynghoriad wyth wythnos Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr am helpu'r awdurdod i ganolbwyntio ei adnoddau mwyfwy cyfyngedig a gwarchod y meysydd y mae preswylwyr wedi nodi eu bod o’r pwys mwyaf iddynt.

Cyfanswm y gyllideb net ar gyfer 2019–20, y mae disgwyl i'r Cabinet ei thrafod ar 12 Chwefror cyn i'r cyngor llawn ei thrafod am y tro olaf a'i chymeradwyo ar 20 Chwefror, yw £270.8 miliwn. Cyllideb refeniw gros y cyngor ar gyfer 2019–20 fydd oddeutu £420 miliwn, a bydd rhaglen buddsoddi cyfalaf ychwanegol gwerth £36.1 miliwn ar gyfer y flwyddyn.

Diolch i setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru, na leihaodd gyllid y cyngor gymaint â'r hyn a ddisgwylid, un o nodweddion mwyaf sylweddol y gyllideb arfaethedig yw'r ffaith na fydd bellach rhaid i ysgolion ddod o hyd i'r arbediad effeithlonrwydd blynyddol gwerth un y cant a gynigiwyd ar gyfer 2019–20.

Yn hytrach, mae'r cyngor yn bwriadu gwario £111 miliwn, sef tua 42 y cant o'i gyllideb refeniw net, ar addysg, a bydd 59 o ysgolion lleol bellach yn rhannu £4.5 miliwn ychwanegol.

Hefyd, mae cyllid cyfalaf gwerth £26.5 miliwn wedi cael ei neilltuo i ddarparu adeiladau ysgol newydd ac wedi'u hailwampio, sydd yn ogystal â'r £21.5 miliwn y mae'r awdurdod eisoes wedi'i fuddsoddi mewn moderneiddio ysgolion.

Mae cynigion y gyllideb yn adlewyrchu adborth yr ymgynghoriad, a ganfu fod pobl yn bennaf am warchod ysgolion, gwasanaethau hamdden, gofal i bobl hŷn, a gwasanaethau i bobl anabl.

O ganlyniad, mae'r adroddiad hefyd yn cynnig gwario cyfanswm o £73 miliwn, neu 27 y cant o'r gyllideb refeniw net, ar ofal cymdeithasol, cymorth cynnar a digartrefedd.

Mae oddeutu £19.5 miliwn wedi cael ei neilltuo ar gyfer gwaith ar dir y cyhoedd, sy'n cynnwys gwasanaethau fel priffyrdd, parciau a mannau agored, glanhau strydoedd, gwastraff ac ailgylchu, trafnidiaeth gyhoeddus, hawliau tramwy, a diogelwch ar y ffyrdd.

Mae rhaglen buddsoddi cyfalaf gwerth £36.1 miliwn wedi cael ei datblygu, a fydd yn buddsoddi £2.5 miliwn mewn grantiau cyfleusterau i bobl anabl, £2.4 miliwn ar gyfer ailwynebu ffyrdd ac adfer llwybrau cerdded, £2.3 miliwn i baratoi safle gorllewinol Golchfa Maesteg ar gyfer datblygiad posibl, £2 miliwn i gryfhau ac adfer pontydd yng Nghwm Ogwr, ac £1.3 miliwn ar gyfer adleoli canolfan ailgylchu gwastraff cartrefi Llandudwg i safle gwell yn y Pîl.

Mae'r rhaglen buddsoddi cyfalaf hefyd yn cynnwys £1.1 miliwn ar gyfer technoleg goleuadau ynni effeithlon ar y strydoedd, £1 miliwn i helpu i drosglwyddo asedau cymunedol (sef pafiliynau chwaraeon, canolfannau cymunedol ac ystafelloedd newid), £530,000 i ehangu mynwentydd ym Mhorthcawl a Chorneli, a £500,000 ar gyfer canolfan llety preswyl i blant.

Bydd rhaglen ar gyfer gwaith hanfodol newid colofnau golau stryd i sicrhau eu bod yn ddiogel yn derbyn £400,000, a bydd £400,000 ar gyfer gwella diogelwch ar y ffyrdd, £357,000 ar gyfer prosiect canolfan gymunedol Neuadd y Dref Maesteg, £180,000 i ddarparu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg, £100,000 ar gyfer Cynorthwyo Adferiad yn y Gymuned, ac £11,000 i wella caeau chwarae Aberfields yn Nant-y-moel.

Er mwyn cyllido pwysau cyllidebol ychwanegol a gwneud iawn am ddiffyg cyllid gwerth £7.6 miliwn, mae adroddiad y gyllideb yn cynnig cynyddu'r dreth gyngor 5.4 y cant – sy'n gywerth â £1.45 ychwanegol yr wythnos ar eiddo cyffredinol ym Mand D – ac yn argymell sawl newid yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.

Mae'r rhain yn cynnwys ailstrwythuro timau rheoli mewnol, lleihau cyfraniadau at Wasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De, dileu Cronfa Gweithredu Cymunedol y cynghorwyr, ailnegodi cytundebau â phartneriaid fel HALO Leisure ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ac ailstrwythuro'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir a’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid.

Cynigiwyd adolygiadau ar gyfer gwasanaethau, gan gynnwys patrolau ar groesfannau ysgol, darpariaeth gofal cymhleth, atal digartrefedd, a pharciau a chaeau chwarae, a gellid cynyddu'r ffioedd i brosesu ceisiadau cynllunio.

Er y cynigiwyd cau gorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr yn flaenorol, mae'r gyllideb arfaethedig yn bwriadu ei chadw ar agor trwy ystyried opsiynau newydd fel partneriaeth â Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, codi mwy ar weithredwyr bysiau i ddefnyddio'r cyfleuster, ystyried cyfleoedd i greu cyfleoedd masnachol, a mwy.

Ac yntau'n wynebu poblogaeth sy'n heneiddio ac sydd â mwy o ddibyniaeth ar wasanaethau'r cyngor, mae'r cyngor hefyd yn bwriadu gwneud arbedion sylweddol trwy gyflwyno dau gartref gofal preswyl newydd sy’n cynnig gofal ychwanegol.

Rhaid i ni wneud yn iawn am ddiffyg cyllid sylweddol unwaith eto, ond diolch i ymateb enfawr gan y cyhoedd a chynnydd mawr yn nifer y bobl a gyfrannodd at ein hymgynghoriad diweddar ar y gyllideb, rydym wedi llwyddo i fireinio ein cynigion cyllideb i sicrhau eu bod yn adlewyrchu cymaint o'r adborth a gawsom â phosibl.

Rydym wedi rhoi sylw arbennig i sylwadau ein penaethiaid ac ysgolion lleol ynglŷn ag effaith debygol lleihad o un y cant, felly rwy'n ddiolchgar fod y lleihad yn y cyllid cyffredinol gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn llai poenus na'r hyn roeddem yn ei ddisgwyl gan ei fod yn golygu nad yw'r cynnig bellach yn angenrheidiol.

Er bod y gyllideb arfaethedig yn cynnwys cynnydd i'r dreth gyngor er mwyn sicrhau bod digon o arian gennym am bethau fel y cytundeb cyflog cenedlaethol newydd i athrawon, rwy'n falch hefyd ei bod yn cefnogi rhaglen buddsoddi cyfalaf sylweddol i'r fwrdeistref sirol.

Dirprwy Arweinydd Hywel Williams

“Wrth ddatblygu cynigion y gyllideb a chreu'r adroddiad hwn, bu'n rhaid i ni ystyried strategaethau gwariant cyhoeddus ac economaidd y DU, blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gofynion deddfwriaethol, adborth gan bwyllgorau craffu a mesurau cyni cenedlaethol parhaus yn llawn.

“Bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn cyfarfod i drafod y gyllideb ar 12 Chwefror, cyn mynd at y cyngor llawn ar 20 Chwefror i'w thrafod am y tro olaf a'i chymeradwyo.”

Chwilio A i Y