Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â COVID-19 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 31 Mawrth 2020
Wrth i'r pandemig coronafeirws COVID-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddio'i adnoddau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu trigolion sy'n agored i niwed. Mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o'r datblygiadau diweddaraf, ac mae'r ychwanegiadau mwyaf diweddar ar y brig:
Gofal plant brys ar gyfer gweithwyr allweddol
Bydd plant sy'n perthyn i deuluoedd lle mae o leiaf un rhiant yn weithiwr allweddol yn parhau i dderbyn gofal plant brys ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn darparu gofal plant brys trwy gydol yr wythnos, a bydd yn parhau i wneud hynny dros egwyl y Pasg rhwng dydd Sadwrn 4 Ebrill a dydd Sul 19 Ebrill (gan gynnwys y dyddiadau hynny). Bydd yn rhaid i bob rhiant sy'n weithiwr allweddol wneud cais (hyd yn oed os ydynt wedi gwneud cais eisoes) ar gyfer y rownd ddiweddaraf hon o'r ddarpariaeth. Mae'r cyngor yn parhau i gynghori rhieni i gadw eu plant gartref oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol i beidio â gwneud hynny.
Cyfarpar diogelu personol (PPE)
Mae trefniadau cadarn yn eu lle ar gyfer rheoli cyfarpar diogelu personol. Mae'r awdurdod lleol wedi derbyn cyflenwad gan Lywodraeth Cymru ac mae hefyd wedi gosod ei archebion ei hun ar gyfer cyfarpar diogelu personol sy’n hanfodol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a staff eraill yn ystod yr argyfwng coronafeirws. Mae'n cysylltu â darparwyr gofal preifat er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn stoc ddigonol. Mae’r cyngor yn gofyn i fusnesau lleol, sydd efallai wedi rhoi'r gorau i fasnachu yn ystod y pandemig, i roi masgiau wyneb, menig glas nitrid a ffedogau plastig nad oes eu hangen arnynt drwy anfon e-bost at Covid19@bridgend.gov.uk
Casgliadau gwastraff gardd
Mae'r gwasanaeth casglu gwastraff gardd wedi gorfod cau ar gyfer 2020 oherwydd bod y contractwr a ddefnyddir i’w droi’n gompost o ansawdd uchel wedi rhoi'r gorau i fasnachu oherwydd yr effaith y mae'r argyfwng coronafeirws COVID-19 wedi'i chael ar ei fusnes. Bydd pob cwsmer sy'n rhan o'r cynllun yn derbyn ad-daliad llawn yn awtomatig. Mae trigolion yn cael eu cymell i gompostio'u gwastraff gardd gan ddefnyddio sachau gwyrdd y gwasanaeth casglu os oes angen, ac osgoi ei losgi, gan y gall hyn fod yn niwsans i gymdogion yn ogystal â chael effaith ar ansawdd aer.
Hawliau tramwy
Bydd llwybrau sydd â hawliau tramwy yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd ar draws y fwrdeistref sirol yn ystod y pandemig. Yr unig lwybr sydd wedi'i gau i'r cyhoedd yw'r llwybr pren yn Rest Bay. Gofynnir i drigolion sy'n defnyddio llwybrau sydd â hawliau tramwy i ystyried pobl eraill sy'n defnyddio'r llwybrau, ac i gydymffurfio â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol.
Prydau ysgol am ddim
Mae tua 7,200 o becynnau bwyd yn cael eu darparu i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim bob wythnos yn ystod yr argyfwng coronafeirws. Fel rhan o gynllun ymgyrchu brys yr awdurdod lleol yn ystod y pandemig, mae 270 aelod o staff arlwyo yn gweithio i ddarparu'r pecynnau bwyd, gan gynnwys ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion deietegol penodol. Bob dydd, mae tua 1,400 o ddisgyblion yn derbyn brechdan, ffrwyth, cacen a dŵr potel. Mae disgyblion a/neu eu rhieni yn casglu'r pecynnau bwyd o 23 o ysgolion lleol, ac mae gwasanaeth dosbarthu ar gael ar gyfer pobl sy'n methu â chasglu oherwydd rhesymau penodol, fel problemau meddygol.
Tlodi bwyd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cyllid o fwy na £44,000 tuag at gynllun grant tlodi bwyd a weinyddir gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO). Bydd y cynllun yn galluogi banciau bwyd ac elusennau eraill ar draws yr ardal i ddosbarthu bwyd yn ystod yr argyfwng coronafeirws, prynu cyfarpar fel oergelloedd, rhewgelloedd a phoptai, darparu hyfforddiant arbenigol a chymwysterau trin bwyd ar gyfer gwirfoddolwyr, a rhagor. Ceir manylion am ba fanciau bwyd sydd ar agor a sut i gael mynediad atynt ar wefan Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr a chaiff y wybodaeth ddiweddaraf ei phostio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cymorth ar gyfer pobl ddigartref
Mae cymorth ar gyfer pobl ddigartref yn ystod yr argyfwng coronafeirws yn ei le, ac mae cyfleuster Jigsaw y cyngor yn parhau i asesu anghenion pobl er mwyn eu hatal rhag dod yn ddigartref, neu helpu i ddarparu llety brys. Ceir cyngor ynghylch digartrefedd, y gofrestr tai a budd-dal tai ar-lein, a gall pobl hefyd gysylltu â'r cyngor drwy talktous@bridgend.gov.uk neu 01656 643643. Mae cymorth ar gyfer achosion o drais domestig hefyd yn cael ei ddarparu gan Calan DVS a'i 'Assia Suite' – ffoniwch nhw'n uniongyrchol ar 01656 766139.
Os ydych mewn perygl ar hyn o bryd, ffoniwch yr heddlu ar 999.
Galwad am wirfoddolwyr
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i helpu yn ystod yr argyfwng COVID-19 gysylltu â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO), lle y dyrennir rôl iddynt sy'n cyfateb i'w sgiliau, diddordebau a phrofiad. Caiff hyfforddiant rhad ac am ddim ei ddarparu ynghyd â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) lle bo'u hangen - ewch i wefan BAVO am fwy o wybodaeth.